Skip to main content

Dilyniant i Addysg Bellach

Amser-llawn
Lefel 1
Tycoch
One year
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae ein cwrs Dilyniant i Addysg Uwch ar gyfer ymadawyr ysgol nad ydynt yn siŵr o’r llwybr galwedigaethol yr hoffen nhw ei ddilyn. Mae hwn yn opsiwn blwyddyn, amser llawn a leolir ar Gampws Tycoch.

Cewch y cyfle i roi cynnig ar amrywiaeth o bynciau fel rhan o’r cwrs hwn. Gallai’r rhain gynnwys*

  • Arlwyo
  • Bod yn gyfrifol wrth ddefnyddio ffyrdd
  • Busnes
  • Chwaraeon
  • Creu bwrdd hwyliau
  • Garddwriaeth
  • Gofal plant
  • Gwasanaethau cyhoeddus
  • Gwasanaethau salon
  • Gwyddor fforensig
  • Iechyd a gofal cymdeithasol
  • Menter
  • Teithio a thwristiaeth
  • TG/y cyfryngau digidol

*gallai hyn newid.

24/5/23

Gwybodaeth allweddol

Yn ddelfrydol, bydd gennych bedwar cymhwyster TGAU ar raddau D-G.

Yn dibynnu ar eich graddau TGAU, efallai y cewch gyfle i ailsefyll arholiadau TGAU mewn Mathemateg, Saesneg Iaith neu Wyddoniaeth.

Bydd rhai o’r unedau craidd yn cael eu haddysgu yn yr ystafell ddosbarth a bydd rhai o’r unedau mwy ymarferol yn cael eu haddysgu yn y gweithdy neu’r gegin. Pan fyddant yn y gegin neu’r gweithdy, bydd disgwyl i’r myfyrwyr wisgo cyfarpar diogelu personol addas y bydd y Coleg yn ei ddarparu am tua £50.

Lefel 2 - Dilyniant i Addysg Bellach

Gallech symud ymlaen i gwrs amser llawn arall neu gyflogaeth, gyda chymorth a chyfarwyddyd gan ein tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol.