Skip to main content
Myfyrwyr yn barod i astudio cerddoriaeth yn y prifysgolion gorau

Myfyrwyr yn barod i astudio cerddoriaeth yn y prifysgolion gorau

Mae myfyrwyr Safon Uwch Cerddoriaeth o Goleg Gŵyr Abertawe yn dathlu ar ôl cael cynigion cwrs gan rai o’r prifysgolion a’r conservatoires gorau yn y DU.

“Rydyn ni wedi cael blwyddyn wych o ran dilyniant myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe i addysg uwch ac rydw i wrth fy modd bod cynifer ohonyn nhw wedi cael lle yn y sefydliadau nodedig hyn,” dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm Jonathan Rogers. “Mae pob un wedi mynd trwy broses clyweliadau hynod drwyadl a chystadleuol a dylen nhw fod yn falch iawn o’u cyflawniadau.”

  • Mae Catrin Davies, Alasdair Gunneberg a Morgan Summers wedi cael cynigion gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i astudio clarinét, soddgrwth a chanu.
     
  • Mae Eluned Davies wedi cael cynnig gan Academi Frenhinol Cerddoriaeth i astudio cyfansoddi.
     
  • Mae Amelia Maguire wedi cael cynnig gan Brifysgol Lerpwl i astudio cerddoriaeth/cerddoriaeth boblogaidd.
     
  • Mae Nia Thomas wedi cael cynnig gan Brifysgol Cymru, Caerdydd i astudio Saesneg a cherddoriaeth.
     
  • Mae Jacob Howells wedi cael cynnig gan Brifysgol Sba Caerfaddon i astudio cerddoriaeth fasnachol.
     
  • Mae Flynn Forgeau wedi cael cynnig gan Brifysgol Solent i astudio perfformio a chynhyrchu cerddoriaeth boblogaidd.
     
  • Mae Isobel Bass wedi cael cynnig gan Academi Emil Dale i astudio theatr gerdd.
     
  • Mae Isabella Viggers wedi cael cynnig gan Brifysgol Surrey i astudio technoleg cerdd greadigol.
     
  • Mae Rhys Carlson wedi cael cynnig gan Brifysgol Swydd Gaerloyw i astudio technoleg cerdd greadigol.

Mae’r cwrs Safon Uwch Cerddoriaeth yn cwmpasu astudio datblygiadau cerddorol arwyddocaol o 1650 hyd heddiw, gweithiau gosod gan gyfansoddwyr megis Mozart a Verdi, a chyfansoddi clasurol Gorllewinol. Mae myfyrwyr hefyd yn cael cymorth sylweddol gan hyfforddwr perfformio dynodedig y Coleg sy’n eu paratoi’n dda i weithio yn y diwydiant.