Skip to main content

Coleg yn canmol dosbarth 2020  

Bob blwyddyn mae graddio yn nodi adeg arbennig yn y calendr academaidd i longyfarch gwaith caled a llwyddiant ein graddedigion.  

Mae’r digwyddiad yn tynnu sylw at gyflawniadau lle rydym yn dathlu llwyddiant myfyrwyr o amrywiaeth eang o gyrsiau lefel uwch gan gynnwys cyfrifeg, addysgu, peirianneg, chwaraeon, gofal plant, chwaraeon, tai a rheoli.

Eleni, byddai dros 200 o fyfyrwyr – ynghyd â’u ffrindiau, eu teuluoedd a’u cyflogwyr wedi cael eu gwahodd i’r seremoni raddio flynyddol heddiw, dydd Mercher 11 Tachwedd. Fodd bynnag, oherwydd yr hinsawdd sydd ohoni, ni allwn fwrw ymlaen â’r seremoni fel y cynlluniwyd.

“Ond, rydyn ni’n bwriadu cynnal y seremoni y flwyddyn nesaf,” dywedodd y Pennaeth Mark Jones. “Rydych chi’n haeddu’r foment hon, a byddwn ni’n ceisio rhoi cyfle i chi fwynhau’ch diwrnod arbennig gyda’r Coleg, eich cyflogwyr, eich teulu, a’ch ffrindiau.

“Hoffwn i fachu ar y cyfle hwn i ddymuno’n dda i chi ym mhob peth a wnewch, ac i ddymuno’n dda i chi yn eich gyrfa yn y dyfodol. Rwy’n edrych ymlaen at glywed am eich llwyddiant parhaus,” ychwanegodd.

Mae Ryan Jarvis, Rheolwr Addysg Uwch y Coleg, hefyd yn estyn ei longyfarchiadau. Dywedodd: “Mae wedi bod yn flwyddyn heriol ar y naw ac oherwydd hyn mae’r cyflawniadau yn fwy trawiadol o lawer. Rydyn ni i gyd yn hynod falch o’ch llwyddiant.”

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais mawr ar addysg yn enwedig addysg bellach ac uwch, o ran addysgu’r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi economni gref.

Ychwanegodd Mark: “Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rwy’n falch iawn ein bod yn parhau i ddarparu cyrsiau lefel uwch ac mae hyn yn ein galluogi i gefnogi’r agenda ‘ma bob blwyddyn.”

I helpu i ddathlu’r dyddiad arbennig heddiw, rydym wedi creu rhagdudalen i dynnu sylw at y graddedigion eleni gyda neges bersonol gan y Pennaeth Mark Jones a rhai tystebau gan ein graddedigion 2020.