Skip to main content

Neges wedi’i diweddaru i fyfyrwyr - Mai

Mae wedi bod yn dair wythnos ers i mi roi’r newyddion diweddaraf i chi am y cynnydd y mae’r Coleg yn ei wneud ar yr ystod o heriau rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

Hoffwn ddiolch eto i bob un ohonoch am eich ymroddiad parhaus i’ch astudiaethau. Er bod staff yn parhau i addysgu a darparu cymorth tiwtorial a bugeiliol ar-lein, mae’ch ymateb wedi bod yn ardderchog ac yn amlwg bydd yn helpu i’ch paratoi ar gyfer eich cam nesaf, beth bynnag y bo.

Ymtaeb i COVID: Coleg Gŵyr Abertawe yn atgyfnerthu cymorth ar draws ei gymuned

Gan fod addysgu wyneb yn wyneb wedi’i atal oherwydd coronafeirws, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio ei amrywiaeth eang o dechnegau ac arbenigedd dysgu o bell ac ar-lein i barhau i gyflawni ei genhadaeth - sef helpu myfyrwyr i gyrraedd eu cam addysgol neu gyflogaeth nesaf.

Yn ystod y cyfnod cyn cau, dechreuodd timau addysgu baratoi dysgwyr yn gyflym yn eu sesiynau tiwtorial a chafodd tua 450 o liniaduron a dyfeisiau eraill eu benthyca i fyfyrwyr a staff.