Deall lefelau cyrsiau galwedigaethol
Ar ôl cofrestru ar raglen alwedigaethol, byddwch yn ymgymryd â ‘lefel’ cwrs penodol yn seiliedig ar eich cefndir academaidd a/neu brofiad gwaith.
Ar ôl cwblhau’r lefel a sicrhau’r cymhwyster, gallwch symud ymlaen i lefel uwch.
- Yn gyfwerth â thri neu bedwar TGAU, gradd D i G
- Yn addas ar gyfer unigolion na lwyddodd i ennill cymwysterau TGAU / na sicrhawyd y graddau disgwyliedig.
- Yn gyfwerth â phedwar neu bump TGAU, gradd A* i C
- Fel arfer, mae cyrsiau Lefel 2 yn addas ar gyfer unigolion sydd wedi sicrhau pedwar TGAU gradd D neu lefel ‘pas’ mewn cymwysterau cyfwerth eraill. Bydd gan rhai cyrsiau ofynion gradd penodol ar gyfer Mathemateg a Saesneg.
- Yn gyfwerth â dau neu dri chymhwyster Safon Uwch
- Mae cyrsiau Lefel 3 yn addas ar gyfer unigolion sydd wedi sicrhau gradd C neu uwch mewn pedwar/pump TGAU neu lefel ‘pas’ mewn cymwysterau cyfwerth. Yn aml, bydd gan ddysgwyr Lefel 3 graddau amodol mewn mathemateg a/neu Saesneg.
- Yn gyfwerth â Thystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC), Prentisiaeth Uwch neu Dystysgrif Addysg Uwch (CertHE).
- Yn gyfwerth â Gradd Sylfaen, Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu Ddiploma Addysg Uwch (DipHE).
- Yn gyfwerh â Gradd Baglor gydag anrhydeddau (ee. BA neu BSc), Prentisiaeth
Gradd, Tytysgrif Raddedig neu Ddiploma Graddedig.
- Yn gyfwerth â Gradd Meistr (e.e MEng, MA neu MSc), Tystysgrif Ôl-raddedig neu
Ddiploma Ôl-raddedig.
- Yn gyfwerth â Doethuriaeth (e.e. PhD neu DPhil).
I gael mwy o wybodaeth, ewch i qualificationswales.org.