Rydym yn gwybod bod llawer o resymau gwahanol pam mae darpar fyfyrwyr yn ystyried astudio’n rhanamser. I lawer mae’n ymwneud â chael y sgiliau iawn i’ch helpu i gael cyflogaeth neu i uwchsgilio ar gyfer y camau nesaf ar yr ysgol yrfa. I rai mae’n ymwneud â dilyn diddordeb neu weithgaredd penodol. I eraill mae’n ymwneud â dychwelyd i ddysgu i ennill y cymhwyster ‘na sydd wastad wedi bod ar eich rhestr o bethau i’w gwneud.
Mae ein cymorth i fyfyrwyr yn ddiguro ac mae ein hamrywiaeth hyblyg o gyrsiau’n golygu, yn y rhan fwyaf o achosion, y gallwch drefnu eich cwrs o amgylch gwaith, bywyd teuluol ac ymrwymiadau eraill.
Lawrlwytho Prosbectws
Gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am ein cyrsiau o dan yr adrannau perthnasol ar y wefan. Ond os yw’n well gennych bori drwy’r llyfrynnau gallwch lawrlwytho ein prosbectysau diweddaraf yma.
Coginio am Bleser
Dysgwch y grefft o baratoi a choginio ryseitiau y gallech chi wahodd gwesteion i'ch cartref i'w mwynhau.
Cwrs pum wythnos yw hwn, yn dechrau 27 Chwefror.
Cofrestrwch ar-lein heddiw
Cymorth i Fyfyrwyr
Mae timau cymorth gennym i roi cyngor i chi ar yrfaoedd, cyrsiau, materion personol neu faterion ariannol. Rhowch wybod i ni adeg cofrestru os oes gennych unrhyw anghenion dysgu arbenigol fel y gallwn roi’r cymorth cywir i chi. Gallwn wneud cais am gyllid hyd yn oed os oes angen offer neu gymorth arbenigol arnoch. Cofiwch ymweld â’n llyfrgelloedd hefyd ar gyfer popeth sydd ei angen arnoch i’ch helpu gyda’ch astudiaethau.
ESOL
Os nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf i chi, mae gennym gyrsiau achrededig AM DDIM ar wahanol lefelau sy’n gallu helpu i wella’ch sgiliau siarad, ysgrifennu a gwrando Saesneg.
Gwella’ch Sgiliau Sylfaenol
Ydych chi’n cael trafferth yn helpu’ch plant gyda’u gwaith cartref? Ydy eich diffyg sgiliau cyfrifiadurol yn eich dal yn ôl? Oes angen i chi wella’ch sgiliau sylfaenol er mwyn symud ymlaen yn y gweithle? Os felly, mae gennym yr ateb i chi.
Cofrestrwch ar ein cyrsiau RHAD AC AM DDIM mewn sgiliau Saesneg a mathemateg a gallwn weithio o gwmpas eich anghenion. Gallwch weithio tuag at gymhwyster hyd yn oed ar gyrsiau City and Guilds Tystysgrif Sgiliau Hanfodol Cymru ac AGORED Cymru.