Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cwrs dwy flynedd hwn yn hanfodol i fod yn dechnegydd atgyfeirio moduron cymwysedig. Mae meysydd astudio’n cynnwys:
- Iechyd a diogelwch
- Systemau trawsyrru
- Injans
- Canfod namau
- Llywio a hongiad
- Systemau trydanol.
Diweddarwyd Rhagfyr 2019
Gofynion Mynediad
Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) neu Gynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Modur (Diploma Lefel 2).
Dull Addysgu’r Cwrs
Byddwch hefyd yn astudio sgiliau hanfodol mewn rhifedd, cyfathrebu a llythrennedd digidol.
Byddwch yn dod i’r Coleg am un diwrnod yr wythnos, a byddwch yn treulio’r pedwar diwrnod arall mewn hyfforddiant yn y swydd.
Cyfleoedd Dilyniant
Byddwch yn cymhwyso fel technegydd modurol. Gall dilyniant i Lefelau 4, 5 a 6 arwain at gyflogaeth fel technegydd goruchwylio neu reolwr.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r eitemau canlynol yn hanfodol er mwyn cwblhau’r cwrs:
Gwerslyfr arbenigol ‘Fundamentals of Motor Vehicle Technology’ L1-3 (ISBN=978 1 4085 15181)
Oferôls ac esgidiau blaen dur sy’n cydymffurfio â safonau diogelwch EN345-1.