Skip to main content

Adeiladu'ch Cyfrifiadur Cyntaf

Rhan-amser
Lefel 2
C&G
Tycoch
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae’r cwrs hwn yn dangos y sgiliau sydd eu hangen i sefydlu cydrannau system TG (e.e. cyfrifiadur personol - bysellfwrdd, llygoden ac argraffydd), cyfryngau storio y gellir eu symud (e.e. cof bach neu yriant DVD allanol), a gwasanaeth cyfathrebu yn ddiogel i gael mynediad i’r Rhyngrwyd a meddalwedd gysylltiedig - a gwirio eu bod yn gweithio'n iawn.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn dylai’r myfyriwr allu dewis a chysylltu system TG ag amrywiaeth o galedwedd, cyfryngau storio y gellir eu symud a gwasanaeth cyfathrebu yn ddiogel a chynnal profion mwy datblygedig i sicrhau ei bod yn gweithio’n llwyddiannus.

Bydd y dysgwr yn:

  • Dewis a chysylltu cyfrifiadur personol yn ddiogel â chyfryngau caledwedd a storio cysylltiedig i ateb anghenion
  • Dewis a chysylltu system TG â gwasanaeth cyfathrebu i ateb anghenion
  • Gosod a ffurfweddu meddalwedd i’w defnyddio
  • Gwirio bod y system TG a’r gwasanaeth cyfathrebu yn gweithio’n llwyddiannu

Ychwanegwyd Chwefror 2019

Gwybodaeth allweddol

Addysgir y cwrs dros wyth wythnos (tair awr yr wythnos). Bydd asesiad y cwrs yn seiliedig ar brawf ymarferol byr.