Trosolwg o’r Cwrs
Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i amrywiaeth o dechnegau ac offer gwnïo. Byddwch yn datblygu amrywiaeth o samplau gwnïo i ategu prosiectau yn y dyfodol. Byddwch yn cynhyrchu canlyniad gorffenedig sy’n adlewyrchu’r sgiliau rydych wedi’u datblygu ar y cwrs. Bydd gennych fynediad i’n stiwdios a’n hoffer ffasiwn a thecstiliau o’r radd flaenaf sy’n cynnwys torrwr laser, argraffydd tecstiliau digidol a meddalwedd dylunio tecstiliau.
Ychwanegwyd Mehefin 2020
Gofynion Mynediad
Nid oes angen profiad blaenorol.
Dull Addysgu’r Cwrs
Addysgir y cwrs mewn gweithdy/stiwdio. Mae amrywiaeth o weithdai ymarferol – tair awr yr wythnos dros 20 wythnos – ac mae’n amodol ar asesiad parhaus.
Cyfleoedd Dilyniant
Mae sawl cyfle gan gynnwys cyrsiau rhan-amser eraill, Celf a Dylunio Lefel 2, Celf a Dylunio Lefel 3, a’r Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio.