Dechrau Arni mewn Atgyweirio Nwyddau Gwyn

Rhan-amser
Lefel 2
Tycoch
28 weeks
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Gwerthfawrogiad o wasanaeth nwyddau gwyn ac atgyweirio nwyddau gwyn. Byddwch yn gweithio yn ein gweithdai nwyddau gwyn arbenigol o safon diwydiant gan edrych ar y peiriannau golchi a sychu dillad.

Addysgir y cwrs yn yr ystafell ddosbarth gyda phwyslais cryf ar addysgu ymarferol. Asesir y cwrs trwy arsylwi ac asesiadau ymarferol penodol o safon diwydiant. Nid oes unrhyw arholiadau allanol. Asesir yr holl dasgau mewn amgylched gwaith dan reolaeth.

Yn ystod y cwrs bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i’r technolegau SMART diweddaraf yn y sector.

Ychwanegwyd Tachwedd 2018

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Trwy gyfweliad – byddai rhywfaint o brofiad trydanol / electronig yn fanteisiol ond nid yn orfodol.

Dull Addysgu’r Cwrs

Mae’r diwydiant nwyddau gwyn yn cynnwys peiriannau golchi, peiriannau sychu a chwcerau.

Bydd y cwrs yn rhoi’r wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen i atgyweirio a gwasanaethu’r dyfeisiau.

Cyfleoedd Dilyniant

Mae prinder peirianwyr yn y sector ac felly gall y cwrs hwn arwain at gyflwyniad i yrfa yn y sector.

Bydd yn bosibl dilyn cymhwyster Lefel 3 yn y ddisgyblaeth hon.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae cyfleoedd i gael profiad gwaith – byddwn yn trafod y rhain yn ystod y rhaglen ddysgu.

 
Diolch am eich diddordeb yn y cwrs hwn. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddosbarthiadau ar gael felly dewch yn ôl yn fuan i gael dyddiadau ac amserau eraill.