Skip to main content

Hyfforddwr Campfa (Diploma mewn Hyfforddiant Personol) YMCA

Rhan-amser
Lefel 3
NCFE
Tycoch
16 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae Diploma Lefel 3 mewn Hyfforddi Ffitrwydd yn addas i’r rhai a hoffai baratoi i weithio fel Hyfforddwr Personol a chael eu cydnabod ar y Gofrestr Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer Corff. Mae’r cymhwyster hefyd yn addas i’r rhai sydd eisoes â phrofiad yn y diwydiant ymarfer corff a ffitrwydd ond a fyddai’n elwa ar hyfforddiant ychwanegol.

Gwybodaeth allweddol

Diploma Lefel 3 mewn Hyfforddi Campfa - dylai ymgeiswyr fod yn 18 oed neu hŷn, gyda safon llythrennedd a rhifedd sy’n briodol i gymhwyster Lefel 3. Mae profiad yn y Diwydiant yn ddymunol ac mae cyfweliad yn ofynnol.

Mae saith uned i’w hastudio - Gwasanaeth Cwsmeriaid, Iechyd, Diogelwch a Diogelu ac Egwyddorion Ffitrwydd Ymarfer Corff ac Iechyd (pob un i’w astudio ar Lefel 3). Yna: Anatomeg a Ffisioleg: Mae’r uned hon yn cwmpasu’r wybodaeth uwch mewn anatomeg a ffisioleg sydd ei hangen ar hyfforddwr i ddylunio rhaglenni diogel ac effeithiol ar gyfer amrywiaeth o gleientiaid. Rhaglennu Hyfforddiant Personol gyda Chleientiaid: Mae’r uned hon yn cwmpasu’r wybodaeth a’r sgiliau y bydd eu hangen ar hyfforddwr personol i ddylunio, rheoli ac addasu rhaglenni hyfforddi ar gyfer oedolion iach o bob oedran. Gall y sylfaen cleientiaid gynnwys pobl ifanc (14-16 oed), oedolion hŷn, cleientiaid cyn-enedigol ac ôl-enedigol a’r rhai ag anableddau ar yr amod bod y gwrtharwyddion perthnasol a’r canllawiau diogelwch allweddol yn cael eu dilyn. Addysgu Sesiynau Hyfforddiant Personol: Mae’r uned hon yn cwmpasu’r wybodaeth a’r sgiliau y bydd eu hangen ar hyfforddwr personol i ddarparu rhaglenni hyfforddi ar gyfer oedolion iach o bob oedran. Gall y sylfaen cleientiaid gynnwys pobl ifanc (14-16 oed), oedolion hŷn, cleientiaid cyn-enedigol ac ôl-enedigol a’r rhai ag anableddau ar yr amod bod y gwrtharwyddion perthnasol a’r canllawiau diogelwch allweddol yn cael eu dilyn. Fodd bynnag, nid yw’r uned hon yn paratoi’r hyfforddwr i ddysgu dosbarthiadau arbenigol. Cymhwyso Egwyddorion Maeth fel rhan o Raglen Hyfforddiant Personol: Mae’r uned hon yn cwmpasu cymhwyso egwyddorion maeth i gefnogi nodau cleientiaid fel rhan o raglen ymarfer corff a gweithgarwch corfforol. Addysgir y cwrs yn yr ystafell ddosbarth ond mae hefyd yn cynnwys gweithgareddau ymarferol mewn amrywiaeth o amgylcheddau. Ymhlith yr asesiadau mae dau arholiad, sesiwn ymarferol a arsylwir a phortffolio o dystiolaeth.

Mae’r cymhwyster yn agor y llwybrau dilyniant canlynol: • Cyflogaeth fel hyfforddwr personol mewn campfa neu’n annibynnol. • Dilyn cymwysterau Lefel 3 ychwanegol • Cymwysterau Lefel 4 neu raddau sylfaen.

Bydd llawlyfr y cwrs a’r cit yn costio tua £80.