Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu – Gosodiadau Electrodechnegol Lefel 3 (Prentisiaeth)
Trosolwg
Bydd y cymhwyster Craidd Lefel 2 yn rhoi trosolwg i ddysgwyr o’r diwydiant adeiladu ochr yn ochr â chynnwys theori sy’n benodol i’r grefft a hyfforddiant ymarferol trydanol.
Bydd y cymhwyster Lefel 3 mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Gosodiadau Electrodechnegol) yn canolbwyntio ar unedau theori sy’n ymdrin â dylunio, gosod, cynnal a chadw ac atgyweirio systemau domestig cymhleth. Bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau hyfforddiant ymarferol mewn lleoliad gweithdy, a byddan nhw’n casglu tystiolaeth ymarferol addas gyda’u cyflogwr.
Gwybodaeth allweddol
Gofynion Mynediad
Mae’r llwybr prentisiaeth yn addas i ddysgwyr sydd:
- yn 16+ oed ac yn gweithio yn y maes ar hyn o bryd
- wedi llwyddo ym mhob asesiad mynediad perthnasol i’r sector (lle bo’n briodol)
- wedi cyflawni un neu fwy o’r canlynol (neu’r cyfwerth cydnabyddedig):
- Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig ar Lefel 2
- Cymhwyster Dilyniant Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu ar Lefel 2*
- Diploma Cenedlaethol Bagloriaeth Cymru
- TGAU gradd A-C ym mhob un o’r canlynol: - pwnc cyfathrebu, mathemateg a naill ai pwnc gwyddonol neu bwnc technegol (e.e. Dylunio a Thechnoleg, Electroneg ac ati)
- TGAU gradd A-C mewn CBAC TGAU Amgylchedd Adeiledig
- Cymhwyster Lefel 2 'Mynediad i Beirianneg Gwasanaethau Adeiladu' a/neu gymwysterau cyfwerth.
Dull Addysgu’r Cwrs
09:00 – 19:30, 1 diwrnod yr wythnos
Cymysgedd o waith cwrs, asesiadau ymarferol, ac arholiadau ar-lein.
Strwythur asesu
I ennill y cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau’r canlynol:
- Blwyddyn 1 - Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu
- Blwyddyn 2 - Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 3) – Gosodiadau Electrodechnegol (Canolradd)
- Blwyddyn 3 - Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 3) – Gosodiadau Electrodechnegol (Uwch).
Cyfleoedd Dilyniant
Bydd yn ofynnol i bob prentis fodloni gofyniad yr asesiad terfynol ar gyfer y diwydiant cydnabyddedig y cyfeirir ato fel AM2S. Diben yr asesiad AM2S yw sicrhau bod pob trydanwr yn cyrraedd safon gyson y cytunwyd arni gan gyflogwyr ledled y DU sy’n bodloni eu disgwyliadau ar gyfer person cymwysedig.
Bydd gofyn i’r prentis gyflawni cyfres o dasgau a gweithdrefnau cyffredin y gallai trydanwr cymwysedig eu hwynebu gan gynnwys gosodiadau trydanol, archwilio a phrofi a chanfod namau. Rhaid i’r gwaith ymarferol gydymffurfio â’r Safon Brydeinig gyfredol (BS7671:2018) a bodloni gofynion deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch ac arferion gorau’r diwydiant.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd dysgwyr nad ydynt wedi cwblhau cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn dechrau’r cwrs ym Mlwyddyn 1 a byddan nhw’n cwblhau’r cwrs Craidd Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu.
Bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cwrs Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn dechrau’r cwrs ar Flwyddyn 2 a byddan nhw’n dechrau’r cwrs Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 3 mewn Gosodiadau Electrodechnegol.