Trosolwg o’r Cwrs
Bydd y cwrs rhagarweiniol hwn i serameg yn eich annog i archwilio amrywiaeth o dechnegau addurniadol ac adeiladu gan ddefnyddio clai. Cewch eich cyflwyno i wydreddau seramig a’ch annog i archwilio i ddatblygu’ch canlyniadau unigryw eich hun. Bydd defnyddio odyn yn rhan allweddol o’r cwrs a byddwch yn dysgu sut i baratoi a defnyddio odyn ar gyfer tanio’ch gwaith.
Ychwanegwyd Mawrth 2021
Gofynion Mynediad
Nid oes angen sgiliau na phrofiad blaenorol gan mai cwrs rhagarweiniol yw hwn.
Dull Addysgu’r Cwrs
Addysgir y cwrs mewn gweithdy trwy amrywiaeth o weithdai ymarferol, tair awr yr wythnos dros 10 wythnos a bydd asesiadau parhaus.
Cyfleoedd Dilyniant
Bydd sawl cyfle gan gynnwys cyrsiau rhan-amser eraill, Celf a Dylunio Lefel 2, Celf a Dylunio Lefel 3, Diploma Sylfaen Celf a Dylunio.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ffi stiwdio £20 ar gyfer defnyddiau.