Skip to main content

Serameg Awyr Agored

Rhan-amser
Lefel 2
AGORED
Llwyn y Bryn
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Bydd y cwrs rhagarweiniol hwn i serameg yn eich annog i archwilio amrywiaeth o dechnegau addurniadol ac adeiladu ar gyfer canlyniadau i’w defnyddio mewn gardd. Cewch eich cyflwyno i wydreddau seramig a’ch annog i archwilio i ddatblygu’ch canlyniadau unigryw eich hun. Bydd defnyddio odyn yn rhan allweddol o’r cwrs a byddwch yn dysgu sut i baratoi a defnyddio odyn ar gyfer tanio’ch gwaith.

Ychwanegwyd Mawrth 2021

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen sgiliau na phrofiad blaenorol gan mai cwrs rhagarweiniol yw hwn.

Addysgir y cwrs trwy amrywiaeth o weithdai ymarferol, tair awr yr wythnos dros 10 wythnos a bydd asesiadau parhaus.

Bydd sawl cyfle gan gynnwys cyrsiau rhan-amser eraill, Celf a Dylunio Lefel 2, Celf a Dylunio Lefel 3, Diploma Sylfaen Celf a Dylunio.