Skip to main content

Sgiliau Dylunio Digidol ar gyfer Diwydiannau Creadigol

Rhan-amser
Lefel 2
C&G
Llwyn y Bryn
10 weeks
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Bydd y cwrs hwn yn eich annog i archwilio ac arbrofi gydag amrywiaeth o ddefnyddiau a thechnegau tecstilau y gellir eu defnyddio ar gyfer dylunio ffasiwn a dylunio mewnol.

Mae’r cwrs yn cwmpasu nodweddion Photoshop ac Adobe Illustrator o safon diwydiant gan gynnwys gweithio gyda haenau, trin lliwiau a delweddau. P’un ai ydych am ddefnyddio Photoshop ar gyfer trin lluniau neu waith printio, bydd y cwrs hwn yn rhoi modd i chi ehangu eich sgiliau i gael y gorau o’r meddalwedd hwn ar gyfer gwaith Ffasiwn a Thecstilau. 

Byddwch yn defnyddio ein stiwdios a’n hoffer mwyaf diweddar, sy’n cynnwys torrwr laser, argraffydd tecstilau digidol a meddalwedd dylunio tecstilau.

Diweddarwyd Ionawr 2020

Gwybodaeth allweddol

Addysgir y cwrs yn yr ystafell ddosbarth, am dair awr yr wythnos a bydd asesiadau parhaus.

Addysgir y cwrs yn yr ystafell ddosbarth, am dair awr yr wythnos a bydd asesiadau parhaus.

Rhaid i gyfranogwyr ddarparu eu gyriant caled USB eu hunain er mwyn cadw a chofnodi gwaith. Mae cost fach hefyd fesul metr i argraffu dyluniadau pwrpasol ar yr argraffydd tecstilau digidol.