Skip to main content

Sgiliau Ffotograffiaeth mewn Stiwdio

Rhan-amser
Lefel 2
AGORED
Llwyn y Bryn
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Oes diddordeb gyda chi mewn ffotograffiaeth? Hoffech chi roi cynnig ar weithio mewn stiwdio? Os felly, bydd y cwrs Lefel 2 hwn yn addas i chi. Gan ddefnyddio ein stiwdios ffotograffiaeth arbenigol a’n hystafell ddigidol bydd y cwrs yn annog dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau gan ddefnyddio goleuadau, camerâu SLR a meddalwedd digidol i olygu eu delweddau.

Ychwanegwyd Chwefror 2021

Gwybodaeth allweddol

Byddai rhai sgiliau a phrofiad o ffotograffiaeth yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol.

Addysgir y cwrs mewn gweithdy/ystafell ddigidol trwy amrywiaeth o weithdai ymarferol, tair awr yr wythnos dros 10 wythnos a bydd asesiadau parhaus.

Bydd sawl cyfle gan gynnwys cyrsiau rhan-amser eraill, Celf a Dylunio Lefel 3, Y Cyfryngau Creadigol Lefel 3, Diploma Sylfaen Celf a Dylunio.