TGAU Cemeg

Rhan-amser
Lefel 2
GCSE
Tycoch
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Mae’r cwrs (CBAC TGAU Cemeg) yn cynnwys tair uned; mae dwy ohonynt yn edrych ar bwnc cemeg gwahanol ac mae’r drydedd uned yn profi sgiliau gwyddonol.

Asesir y cwrs drwy ddau arholiad – un ar gyfer uned 1 ac un ar gyfer uned 2 (mae pob arholiad yn cyfrif am 45% o farciau’r cwrs sy’n gwneud cyfanswm o 90%). Mae ‘asesiadau ymarferol’ yn cael eu cwblhau yn y dosbarth (10% o farciau’r cwrs).

Mae’r cwrs yn rhedeg am 2.5 awr yr wythnos am 30 wythnos.

Bydd rhaid i fyfyrwyr gwbhlau nifer sylweddol o oriau astudio yn ystod eu hamser eu hunain.

Diweddarwyd Mehefin 2017

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Nid oes angen cymwysterau. Bydd rhaid i fyfyrwyr fabwysiadu ymagwedd resymegol a mathemategol at eu hastudiaethau.

Dull Addysgu’r Cwrs

Uned 1: SYLWEDDAU CEMEGOL, ADWEITHIAU AC ADNODDAU HANFODOL

Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud 45% o’r cymhwyster

Mae’r uned hon yn cynnwys y pynciau canlynol:

  1. Natur sylweddau ac adweithiau cemegol
  2. Adeiledd yr atom a’r tabl cyfnodol
  3. Dŵr
  4. Y Ddaear sy’n newid yn barhaus
  5. Cyfradd newid cemegol
  6. Calchfaen

Uned 2: BONDIO CEMEGOL, CYMHWYSO ADWEITHIAU CEMEGOL A CHEMEG ORGANIG

Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud 45% o’r cymhwyster

Mae’r uned hon yn cynnwys y pynciau canlynol:

  1. Bondio, adeiledd a phriodweddau
  2. Asidau, basau a halwynau
  3. Metelau ac echdynnu metelau
  4. Adweithiau cemegol ac ynni
  5. Olew crai, tanwyddau a chemeg organig
  6. Adweithiau cildroadwy, prosesau diwydiannol a chemegion pwysig

Uned 3: ASESIAD YMARFEROL 10% o’r cymhwyster

Adran A – Cael canlyniadau
Adran B – Dadansoddi a gwerthuso canlyniadau

Mae rhagor o fanylion i’w gweld ar wefan CBAC TGAU Gwyddoniaeth.

 

Cyfleoedd Dilyniant

Mae TGAU Cemeg yn cynnig cymhwyster TGAU mewn gwyddoniaeth sy’n ofynnol ar gyfer cyrsiau hyfforddi athrawon. Byddai dilyniant i gyrsiau Gwyddoniaeth Lefel 3 megis Safon Uwch a BTEC yn bosibl.

 
Diolch am eich diddordeb yn y cwrs hwn. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddosbarthiadau ar gael felly dewch yn ôl yn fuan i gael dyddiadau ac amserau eraill.