Toriadau Gwallt Clasurol i Fenywod

Rhan-amser
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Bwriad y cyrsiau hyn yw gwella a hogi’ch sgiliau torri sylfaenol:

  • Technegau torri ar gyfer gwallt hir/canolig – un hyd, graddoli blaen a haenau
  • Torri bobiau – un hyd a graddoledig
  • Torri cropiau byr – graddoli byr, siswrn dros grib, gweadeddu

Cewch Dystysgrif Coleg Gŵyr Abertawe ar ôl cwblhau’r cwrs.

Ychwanegwyd Mehefin 2020

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Mae profiad blaenorol neu gymhwyster Lefel 2 mewn trin gwallt yn ofynnol.
Bydd gofyn i chi ddod â’ch offer a’ch cyfarpar sylfaenol eich hun e.e. offer torri.
Yn y prynhawn, bydd angen model addas ar gyfer eich toriad gwallt neu bydd rhaid i chi ddarparu’ch pen ymarfer eich hun (sylwch nad yw hyn yn ddelfrydol ar gyfer y cwrs cropiau byr).

Dull Addysgu’r Cwrs

Bydd y cwrs yn cynnwys arddangosiadau a’r cyfle i chi gwblhau toriad.