This course is available in Welsh

Tystysgrif Lefel 3 mewn Therapi Tylino â Cherrig

Rhan-amser
Lefel 3
VTCT
Tycoch
15 wythnos
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Mae VTCT Tystysgrif Lefel 3 mewn Therapi Tylino â Cherrig yn gymnhwyster galwedigaethol sylweddol a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel arbenigwr therapi tylino â cherrig. 

  • Darparu triniaeth tylino pen Indiaidd 
  • Gofalu am gleientiaid a chyfathrebu â nhw mewn diwydiannau cysylltiedig â harddwch 
  • Monitro a chynnal arferion iechyd a diogelwch yn y salon 
  • Hyrwyddo a gwerthu cynnyrch a gwasanaethau i gleientiaid.

Manyleb lawn y cwrs ar wefan VTCT.

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

  • Byddwn yn derbyn cymhwyster Lefel 2 mewn therapi harddwch neu therapi cyflenwol 
  • Cyfweliad 
  • Bydd angen i ymgeiswyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt feddu ar gymhwyster ESOL Lefel 1. 

Dull Addysgu’r Cwrs

Asesiad ymarferol parhaus, arholiadau, astudiaethau achos ac aseiniadau ysgrifenedig. Bydd disgwyl i fyfyrwyr astudio gartref, gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig ac ymarferol. 

Cyfleoedd Dilyniant

Bydd y cymhwyster hwn yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth fel arbenigwr therapi tylino â cherrig.  

Mae cyfleoedd gyrfa yn cynnwys gweithio mewn salonau harddwch masnachol, sbas dydd, neu weithio’n annibynnol, yn hunangyflogedig, fel gweithiwr symudol neu gartref. 

Gwybodaeth Ychwanegol

Rhaid i ddysgwyr brynu crys polo.

Byddwn yn cadarnhau costau yn ystod y cyfweliad.

 

Detailed course information

Where and when can I study?

Start Date: Tue 27 Feb 2024 | Course Code: K3C809 ETB | Cost: £135

Level 3   Tue   6-9pm   15 weeks   Tycoch