Skip to main content

Cyflogres â Llaw a Chyfrifiadurol Lefel 2

Rhan-amser
Lefel 2
AGORED
Sketty Hall

Arolwg

Mae’r lefel hon yn cyflwyno’r dysgwr i gyflogres â llaw a chyfrifiadurol.

Mae unedau’n cynnwys:-

  • Hanfodion deddfwriaeth cyflogaeth ar gyfer cyflogres
  • Cyfansoddiad cofnod cyflogres gweithiwr ac
  • Elfennau o gyflog crynswth
  • Taliadau ac ychwanegiadau statudol ac anstatudol
  • Terfynu cyflogaeth
  • Creu cofnod cyflogres gweithiwr
  • Cyfrifo cyflog crynswth
  • Prosesu cyflogres
  • Prosesu ymadawyr
  • Theori a sgiliau cyflogres gyfrifiadurol
  • Adroddiadau data cyflogres statudol ac anstatudol

05/07/22

Gwybodaeth allweddol

Yn ddelfrydol, dylai myfyrwyr feddu ar un neu ddwy radd A-C ar lefel TGAU ond mae synnwyr cyffredin a gallu am rifau ac amcangyfrif yn fwy pwysig. Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.

Addysgir y cwrs trwy ddarlithoedd ystafell ddosbarth gan aelodau o staff cymwysedig a phrofiadol. Bydd asesiadau parhaus drwy gydol y cwrs. Does dim arholiadau ffurfiol.

Cyfle i symud ymlaen i gyrsiau Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu mewn Cyfrifeg. Mae’r cwrs hefyd yn darparu cymhwyster y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.