Trosolwg o’r Cwrs
Achredir ein cyrsiau cyfrifeg proffesiynol gan ACCA ac rydym yn Bartner Dysgu Cymeradwy Platinwm. Ar hyn o bryd, ni yw’r unig Ganolfan Addysg Bellach yn y DU i ddal y lefel hon o hyfforddiant. Eu bwriad yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd proffesiynol a fydd yn datblygu gweithwyr proffesiynol i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus; p’un a ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu breifat, yn ymarfer mewn sefydliad cyfrifyddu neu’n dilyn gyrfa mewn busnes.
Uned: Arweinydd Busnes Strategol
Byddwch yn gallu:
- Cymhwyso sgiliau arweinyddiaeth a moesegol ardderchog i osod y ‘cywair o’r brig’ a hyrwyddo diwylliant cadarnhaol o fewn y sefydliad, gan fabwysiadu persbectif sefydliad cyfan o ran rheoli perfformiad a chreu gwerthoedd.
- Gwerthuso effeithiolrwydd system lywodraethu ac asiantaethau y sefydliad a chydnabod cyfrifoldeb y bwrdd neu asiantiaid eraill tuag at eu rhanddeiliaid, gan gynnwys cyfrifoldebau cymdeithasol y sefydliad a’r goblygiadau adrodd.
- Gwerthuso sefyllfa strategol y sefydliad yn erbyn yr amgylchedd allanol ac argaeledd adnoddau mewnol, i nodi opsiynau strategol dichonadwy.
- Dadansoddi proffil risg y sefydliad ac unrhyw opsiynau strategol a nodwyd, mewn diwylliant o reoli risg yn gyfrifol.
- Dewis a chymhwyso technolegau gwybodaeth priodol a dadansoddeg data, i ddadansoddi ffactorau sy’n effeithio ar gadwyn gwerthoedd y sefydliad i adnabod cyfleoedd strategol a gweithredu opsiynau strategol o fewn fframwaith o reolaethau diogelwch TG cadarn.
- Gwerthuso adroddiadau rheolwyr a rheolaeth fewnol a systemau archwilio i sicrhau cydymffurfiaeth a chyflawniad amcanion y sefydliad a diogelu asedau sefydliadol.
- Cymhwyso technegau ariannol lefel uchel o arholiadau Sgiliau o ran cynllunio, gweithredu a gwerthuso opsiynau a gweithredoedd strategol.
- Galluogi llwyddiant trwy feddwl yn arloesol, cymhwyso’r strategaethau dosbarth a’r technolegau aflonyddol gorau i reoli newid; dechrau, arwain a threfnu prosiectau, wrth reoli doniau ac adnoddau busnes eraill yn effeithiol.
- Cymhwyso amrywiaeth o Sgiliau Proffesiynol wrth roi sylw i ofynion yn yr arholiad Arweinydd Strategol ac wrth baratoi ar gyfer, neu i ategu, profiad gwaith presennol.
Diweddarwyd Mehefin 2022
Gofynion Mynediad
Cwblhau unedau ACCA - BT i FM neu eithriadau gradd.
Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.
Dull Addysgu’r Cwrs
Mae’r holl addysgu yn seiliedig ar ddarlithoedd ystafell dosbarth gan aelodau o staff cymwysedig a phrofiadol.
COVID 19
Rydym yn obeithiol na fydd cyfnod clo arall oherwydd cyfyngiadau Covid 19 yn y dyfodol, ond, os yw’n berthnasol, bydd mesurau a chanllawiau cadw pellter cymdeithasol y coleg ar waith i’ch amddiffyn chi ac eraill. Pe bai Llywodraeth Cymru yn cyfarwyddo’r Coleg i gau am gyfnod oherwydd Covid 19, bydd addysgu ar-lein yn digwydd hyd nes y codir y cyfyngiadau.
Cynigir arholiadau ffurfiol bedair gwaith y flwyddyn gan ACCA.
Cyfleoedd Dilyniant
Bydd myfyrwyr yn gallu astudio a symud ymlaen at unedau ACCA SBR eraill ac unedau pynciau dewisol.
Mae’r cwrs hefyd yn darparu cymhwyster y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Ffioedd Cwrs a deunyddiau astudio – tua £1025 fesul uned
- Ffi Aelodaeth ACCA tua £121
- Ffi Gofrestru ACCA tua £95
- Ffioedd Eithrio ACCA tua £98 i £143 fesul uned
- Ffi Arholiad tua £245 fesul uned
Gofynnwch am fanylion unrhyw gyllid a allai fod ar gael.
Os hoffech astudio’r cwrs hwn, cysylltwch â'r Tîm Cyfrifeg ar 01792 284097, neu accountancy@gcs.ac.uk
Dyddiad dechrau: Dydd Mercher 24 Awst 2022