Cyfrifeg ACCA AAA – Archwilio a Sicrwydd Uwch

Rhan-amser, HE
Lefel 6
ACCA
Plas Sgeti
30 weeks
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Achredir ein cyrsiau cyfrifeg proffesiynol gan ACCA ac rydym yn Bartner Dysgu Cymeradwy Platinwm. Eu bwriad yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd proffesiynol a fydd yn datblygu gweithwyr proffesiynol i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus; p’un a ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu breifat, yn ymarfer mewn sefydliad cyfrifyddu neu’n dilyn gyrfa mewn busnes.

04/07/23

Click Here to Complete Our Higher Education Enquiry Form

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Cwblhau unedau ACCA - BT i FM neu eithriadau gradd. Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.

Dull Addysgu’r Cwrs

AAA – Archwilio a Sicrwydd Uwch (AAA) 

Byddwch yn gallu:

  • Adnabod yr amgylchedd cyfreithiol a rheoleiddiol a’i effaith ar arferion archwilio a sicrwydd
  • Dangos y gallu i weithio’n effeithiol ar ymgysylltiad sicrwydd neu ymgysylltiad gwasanaeth arall o fewn fframwaith proffesiynol a moesegol
  • Asesu ac argymell polisïau a gweithdrefnau rheoli ansawdd priodol mewn rheolaeth practis ac adnabod swydd yr archwilydd mewn perthynas â derbyn a chadw apwyntiadau proffesiynol
  • Adnabod a llunio’r gwaith gofynnol i ddiwallu amcanion aseiniadau archwilio a chymhwyso’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio.
  • Adnabod a llunio’r gwaith gofynnol i ddiwallu amcanion aseiniadau nad ydynt yn rhai archwilio
  • Gwerthuso canfyddiadau a chanlyniadau gwaith a wnaed a drafftio adroddiadau addas ar aseiniadau
  • Deall y materion a’r datblygiadau cyfredol sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau sicrwydd a gwasanaethau cysylltiedig ag archwilio.

Mae’r holl addysgu yn seiliedig ar ddarlithoedd yn yr ystafell ddosbarth gan aelodau o staff cymwysedig a phrofiadol.

Cynigir arholiadau ffurfiol bedair gwaith y flwyddyn gan ACCA.

Cyfleoedd Dilyniant

Bydd myfyrwyr yn gallu astudio a symud ymlaen at unedau ACCA SBL a SBR eraill ac unedau pynciau dewisol.

Mae’r cwrs yn darparu cymhwyster y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gofynnwch am unrhyw gyllid a allai fod ar gael.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y cwrs hwn, cysylltwch â'r Tîm Cyfrifeg ar 01792 284097 neu accountancy@gcs.ac.uk