Trosolwg o’r Cwrs
Achredir ein cyrsiau cyfrifeg proffesiynol gan ACCA ac rydym yn Bartner Dysgu Cymeradwy Platinwm. Eu bwriad yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd proffesiynol a fydd yn datblygu gweithwyr proffesiynol i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus; p’un a ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu breifat, yn ymarfer mewn sefydliad cyfrifyddu neu’n dilyn gyrfa mewn busnes.
Diweddarwyd Mehefin 2022
Gofynion Mynediad
Cwblhau unedau ACCA - BT i FM neu eithriadau gradd. Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.
Dull Addysgu’r Cwrs
Byddwch yn gallu:
- Esbonio a gwerthuso rôl a chyfrifoldeb yr uwch swyddog gweithredol ariannol neu’r uwch gynghorydd ariannol o ran ateb anghenion gwrthdrawiadol rhanddeiliaid ac adnabod rôl sefydliadau ariannol rhyngwladol mewn perthynas â rheolaeth ariannol cwmnïau rhyngwladol
- Gwerthuso penderfyniadau buddsoddi posibl ac asesu eu canlyniadau ariannol a strategol, yn y wlad hon ac yn rhyngwladol
- Asesu a chynllunio caffaeliadau ac uno cwmnïau fel strategaeth twf amgen
- Gwerthuso a chynghori ar strategaethau ad-drefnu corfforaethol amgen
- Cymhwyso a gwerthuso uwch dechnegau rheoli risg a thrysorlys amgen.
Mae’r holl addysgu yn seiliedig ar ddarlithoedd ystafell dosbarth gan aelodau o staff cymwysedig a phrofiadol.
COVID 19
Rydym yn obeithiol na fydd cyfnod clo arall oherwydd cyfyngiadau Covid 19 yn y dyfodol, ond, os yw’n berthnasol, bydd mesurau a chanllawiau cadw pellter cymdeithasol y coleg ar waith i’ch amddiffyn chi ac eraill. Pe bai Llywodraeth Cymru yn cyfarwyddo’r Coleg i gau am gyfnod oherwydd Covid 19, bydd addysgu ar-lein yn digwydd hyd nes y codir y cyfyngiadau.
Cynigir arholiadau ffurfiol bedair gwaith y flwyddyn gan ACCA.
Cyfleoedd Dilyniant
Bydd myfyrwyr yn gallu astudio a symud ymlaen at gyrsiau ACCA SBL a SBR eraill ac unedau pynciau dewisol eraill.
Mae'r cwrs hefyd yn darparu cymhwyster y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ffi cwrs a deunyddiau astudio £725 fesul uned Ffi gofrestru ACCA tua £95 Ffi Aelodaeth ACCA tua £121 Ffi eithrio ACCA tua £98 i £143 fesul uned Ffi arholiad tua £190 Gofynnwch am fanylion unrhyw gyllid a allai fod ar gael. Os hoffech astudio’r cwrs hwn, cysylltwch â'r Tîm Cyfrifeg ar 01792 284097 neu e-bostiwch accountancy@gcs.ac.uk Dyddiad Dechrau: Dydd Mercher 7 Medi 2022 |