Trosolwg o’r Cwrs
Achredir ein cyrsiau cyfrifeg proffesiynol gan ACCA ac rydym yn Bartner Dysgu Cymeradwy Platinwm. Ar hyn o bryd, ni yw’r unig Ganolfan Addysg Bellach yn y DU i ddal y lefel hon o hyfforddiant. Eu bwriad yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd proffesiynol a fydd yn datblygu gweithwyr proffesiynol i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus; p’un a ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu breifat, yn ymarfer mewn sefydliad cyfrifyddu neu’n dilyn gyrfa mewn busnes.
Diweddarwyd Mehefin 2022
Gofynion Mynediad
Cwblhau unedau ACCA - BT i FM neu eithriadau gradd. Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.
Dull Addysgu’r Cwrs
Rheoli Perfformiad Uwch (APM)
Byddwch yn gallu:
- Defnyddio modelau cynllunio a rheoli strategol i gynllunio a monitro perfformiad sefydliadol
- Asesu ac adnabod y dylanwadau allanol allweddol ar berfformiad sefydliadol
- Adnabod a gwerthuso nodweddion dylunio systemau gwybodaeth a monitro rheoli perfformiad effeithiol
- Cymhwyso technegau strategol priodol i fesur perfformiad a gwerthuso a gwella perfformiad sefydliadol
- Cynghori cleientiaid ac uwch reolwyr ar werthuso perfformiad busnes strategol ac ar adnabod perygl o fethiant corfforaethol.
Mae’r holl addysgu yn seiliedig ar ddarlithoedd ystafell dosbarth gan aelodau o staff cymwysedig a phrofiadol.
COVID 19
Rydym yn obeithiol na fydd cyfnod clo arall oherwydd cyfyngiadau Covid 19 yn y dyfodol, ond, os yw’n berthnasol, bydd mesurau a chanllawiau cadw pellter cymdeithasol y coleg ar waith i’ch amddiffyn chi ac eraill. Pe bai Llywodraeth Cymru yn cyfarwyddo’r Coleg i gau am gyfnod oherwydd Covid 19, bydd addysgu ar-lein yn digwydd hyd nes y codir y cyfyngiadau.
Cynigir arholiadau ffurfiol bedair gwaith y flwyddyn gan ACCA
Cyfleoedd Dilyniant
Bydd myfyrwyr yn gallu astudio a symud ymlaen at gyrsiau ACCA SBL a SBR eraill ac unedau pynciau dewisol eraill.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ffi cwrs a deunyddiau astudio £725 fesul uned
Ffi gofrestru ACCA tua £95
Ffi Aelodaeth ACCA tua £121
Ffi eithrio ACCA tua £98 i £143 fesul uned
Ffi arholiad tua £190
Gofynnwch am fanylion unrhyw gyllid a allai fod ar gael.
Dyddiad dechrau: Dydd Mercher 11 Ionawr 2023
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y cwrs hwn, cysylltwch â'r Tîm Cyfrifeg ar 01792 284097 neu e-bostiwch accountancy@gcs.ac.uk