Skip to main content

Gwyddoniaeth Gymhwysol HNC

Rhan-amser
Lefel 4
HNC
Tycoch
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae’r cwrs dwy flynedd hwn yn rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar unigolion sy’n gweithio yn y diwydiannau cemegol a chysylltiedig i lwyddo mewn cyflogaeth. Bydd dysgwyr yn datblygu ystod o sgiliau, technegau a phriodoleddau sy’n hanfodol ar gyfer perfformiad llwyddiannus mewn bywyd gwaith.

Gwybodaeth allweddol

Un o’r canlynol:

  • Diploma Mynediad i AU – Pas
  • Safon Uwch – DD
  • BTEC Diploma Estynedig L3 – PPP
  • BTEC Diploma L3 90-Credyd – MM.

Gwyddorau Cymhwysol (Llwybr Cemeg)

Blwyddyn 1

Uned 1: Hanfodion Technegau Labordy (Gorfodol)

Uned 2: Dulliau Gweithredu a Thechnegau Trin Data Gwyddonol (Gorfodol)

Uned 7: Cemeg Anorganig (Gorfodol)

Uned 8: Cemeg Organig (Gorfodol)

Blwyddyn 2

Uned 3: Rheoleiddio ac Ansawdd yn y Gwyddorau Cymhwysol (gosodir gan Pearson)

Uned 9: Cemeg Ffisegol 

Uned 64: Ymchwiliad Seiliedig ar Waith

Uned 73: Llygryddion Amgylcheddol a Phrofion Dŵr

Dilyniant i radd mewn cemeg gymhwysol neu faes cysylltiedig.

Cydnabod Dysgu Blaenorol

Mae’n bosibl y bydd y myfyriwr yn gallu ennill cydnabyddiaeth ar gyfer dysgu blaenorol. Cysylltwch i gael cyngor os teimlwch y gallai hyn fod yn berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: https://qualifications.pearson.com/content/dam/pdf/Support/policies-for-centres-learners-and-employees/recognition-of-prior-learning-and-process-policy.pdf

Y ffioedd dysgu ar gyfer y cwrs hwn yw £1,200 y flwyddyn.

Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs h.y. Teithio i ac o’r Coleg neu’r lleoliad Costau llungopïo, nwyddau ysgrifennu ac offer (e.e. cofau bach) Argraffu a rhwymo Gynau ar gyfer seremonïau graddio

I gael gwybodaeth gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu a grantiau ffioedd, ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk