HNC Peirianneg Fecanyddol
Trosolwg
Hyd: Dwy flynedd
Mae’r cwrs yn bennaf ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes wedi’u cyflogi yn y sector ac mae’n cynnig cyfle go iawn iddynt ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth i’w helpu i ddatblygu eu gyrfaoedd.
Diweddarwyd Medi 2022
Gwybodaeth allweddol
Gofynion Mynediad
https://www.uwtsd.ac.uk/cy/Dwy radd Safon Uwch (o leiaf radd C mewn mathemateg a phwnc gwyddoniaeth), BTEC Lefel 3 neu’r cyfwerth. Bydd rhaid i bob myfyriwr ddod am gyfweliad.
Dull Addysgu’r Cwrs
Addysgir y cwrs dros un diwrnod yr wythnos (ar hyn o bryd dydd Llun ar gyfer y flwyddyn gyntaf a dydd Mercher ar gyfer yr ail flwyddyn).
Modiwlau’r flwyddyn gyntaf:
Lefel 4
- mathemateg
- cymwysiadau peirianneg a sgiliau astudio
- gwyddor peirianneg 1
Modiwlau’r ail flwyddyn:
Lefel 4
- defnyddiau a chyflwyniad i dechnoleg gweithgynhyrchu
- gwyddor peirianneg 2
- peirianneg dylunio
Cyfleoedd Dilyniant
Mae’r cymhwyster yn agor cyfleoedd gyrfa mewn ymgynghori, contractio a gweithgynhyrchu yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Gall myfyrwyr hefyd symud ymlaen i’r HND ac wedi hynny byddent yn cael cyfle i symud ymlaen i’r BEng neu’r MEng ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Gwybodaeth Ychwanegol
Achrediad Dysgu Blaenorol
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol. Mae rhagor o fanylion i’w gweld yn y Swyddfa Academaidd | PCDDS
O fis Medi 2023, y ffioedd dysgu ar gyfer y cwrs yw £2100 y flwyddyn. I gael gwybodaeth am gymorth ariannol, gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu a grantiau ffioedd, ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn:
• teithio i ac o’r coleg, neu’r lleoliad
• llungopïo, deunydd ysgrifennu a chostau offer (e.e. cofau bach)
• argraffu a rhwymo
• gynau ar gyfer seremonïau graddio
*Sylwch y gallai’r ffioedd dysgu a nodir gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan y brifysgol i gael rhagor o wybodaeth.