Skip to main content

Gwybodaeth am gyllid myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023-2024

Ar gyfer ceisiadau yn ystod y flwyddyn academaidd hon, bydd ffioedd dysgu’n dibynnu ar y cwrs yr hoffech ei astudio, felly edrychwch ar y cardiau cwrs unigol yn ofalus.

Cyrsiau amser llawn
Mae cyllid (benthyciadau a grantiau) ar gael i dalu am gost eich dysgu a’ch costau byw tra byddwch yn astudio. Mae cyllid grant arall ar gael hefyd yn dibynnu ar eich amgylchiadau, megis lwfans myfyrwyr anabl a grantiau dibynyddion. Telir y grantiau hyn i fyfyrwyr cymwys yn ychwanegol at y prif gyllid myfyrwyr ac fel arfer nid oes rhaid i chi eu had-dalu.

Bydd rhaid i chi wneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu hyd at £9,000 – bydd hwn yn talu am y ffi dysgu lawn ac fe’i telir yn uniongyrchol i’r brifysgol. Yna gallwch wneud cais am gostau byw, benthyciadau a grantiau – yn dibynnu ar eich amgylchiadau – hyd at uchafswm y lwfans. Mae uchafswm y cymorth cynhaliaeth sydd ar gael yn gyfuniad o grantiau a benthyciadau. Y trothwyau cyfredol yw:

  • Myfyrwyr sy’n byw i ffwrdd o’r cartref = uchafswm o £10,710
  • Myfyrwyr sy’n byw gartref = uchafswm o £9,095

Bydd yr holl fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru yn cael grant cynhaliaeth gwerth o leiaf £1,000, sy’n gallu cynyddu i £8,100 yn dibynnu ar incwm y cartref. Gallwch ychwanegu at hyn gyda benthyciad cynhaliaeth, sydd ar gael hyd at yr uchafswm (gweler uchod).

Mae Grantiau Cymorth Arbennig wedi disodli rhai neu holl Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr mewn rhai amgylchiadau. Os ydynt yn gymwys, gall y myfyrwyr gael y £5,161 cyntaf fel Grant Cymorth Arbennig. Bydd unrhyw beth drod hyn yn Grant Dysgu Llywodraeth Cymru. Golyga hyn y bydd myfyrwyr ar yr incwm isaf yn gallu cael arian ychwanegol.

Mae cyllid grant arall ar gael hefyd, yn dibynnu ar eich amgylchiadau, megis lwfans myfyrwyr anabl a grantiau pobl ddibynnol. Telir y grantiau hyn i fyfyrwyr cymwys yn ychwanegol at y prif gyllid myfyrwyr ac fel arfer nid oes rhaid eu had-dalu.

Ad-dalu benthyciadau
Gwneir hyn trwy’r system dreth (h.y. cynllun Talu Wrth Ennill neu hunanasesiad) pan fyddwch yn ennill £27,295. Nid oes rhaid i chi ad-dalu’r grant cynhaliaeth.

Gallwch dderbyn bwrsari Coleg hyd at £1,000 ar gyfer cyrsiau addysg uwch amser llawn.

I gael rhagor o wybodaeth am opsiynau cyllid ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Cyrsiau rhan-amser
Gallech wneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu hyd at £2,625 – mae’r swm yn dibynnu ar faint y mae’r Brifysgol neu’r Coleg yn ei godi arnoch.

Grantiau a benthyciadau cynhaliaeth - mae’r rhain yn dibynnu ar incwm y cartref a dwysedd y cwrs. Uchafswm y grantiau a’r benthyciadau sydd ar gael yw £5,730 (yn dibynnu ar ddwysedd y cwrs).

Mae cyllid grant arall ar gael hefyd, yn dibynnu ar eich amgylchiadau, megis lwfans myfyrwyr anabl a grantiau dibynyddion. Telir y grantiau hyn i fyfyrwyr cymwys yn ychwanegol at y prif gyllid myfyrwyr ac fel arfer nid oes rhaid i chi eu had-dalu.

Nid oes rhaid i chi ad-dalu grant WGL oni bai eich bod yn gadael eich cwrs yn gynnar neu rydych wedi cael eich gordalu.

Ad-dalu benthyciadau
Gwneir hyn trwy’r system dreth (h.y. cynllun Talu Wrth Ennill neu hunanasesiad) pan fyddwch yn ennill £27,730. Nid oes rhaid i chi ad-dalu’r grant cynhaliaeth.

Gallwch dderbyn bwrsari Coleg hyd at £1,000 ar gyfer cyrsiau addysg uwch amser llawn.

I gael rhagor o wybodaeth am opsiynau cyllid rhan-amser ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.