Myfyrwyr Addysg Uwch yn ymweld ag Efrog Newydd
Ym mis Chwefror eleni, fe aeth ein myfyrwyr Gradd Sylfaen Rheoli Digwyddiadau a’n myfyrwyr Gradd Sylfaen Datblygu a Rheolaeth Chwaraeon i Efrog Newydd.
Treuliodd y myfyrwyr bedwar diwrnod yn y ddinas, a chawsant gyfle i ymweld â’r Statute of Liberty, Madison Square Garden yn ogystal â gwylio gêm byw o bêl-fasged yng Nghanolfan Barclays.
“Bwriad y trip oedd darparu profiad bythgofiadwy i’n myfyrwyr, gan roi mewnwelediad rhyngwladol iddynt i chwaraeon a rheoli cyfleusterau.” Meddai James Prosser, Arweinydd Cwricwlwm Chwaraeon.