Skip to main content

Olympiadau Academaidd yn rhoi myfyrwyr ar brawf

Mae myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi perfformio’n arbennig o dda mewn cyfres o gystadlaethau yn ddiweddar a gynlluniwyd i brofi eu sgiliau a’u paratoi ar gyfer eu ceisiadau prifysgol.

Roedd y dysgwyr yn gallu cymryd rhan yng nghynllun Olympiad Sêr Cymreig diolch i gymorth Rhwydwaith Seren, menter Llywodraeth Cyumru sy’n helpu dysgwyr disgleiriaf ysgolion gwladol Cymru i gyflawni eu potensial academaidd llawn.

Ailystyried gyrfa diolch i Gemeg!

Roedd Ruby Millinship yn bwriadu dilyn gyrfa ym maes dylunio nes iddi ddechrau astudio Safon Uwch Cemeg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

“Penderfynais i astudio cemeg i roi cynnig arno a dweud y gwir, roedd y pwnc wedi ennyn fy chwilfrydedd ar lefel TGAU ac roeddwn i eisiau gwybod rhagor,” meddai Ruby. “O fewn y pythefnos cyntaf, roeddwn i wedi darganfod pwnc a ddaeth yn naturiol i mi. Roedd dysgu cemeg yn teimlo fel dysgu pwnc oedd eisoes yn fy meddwl; roedd e’n gwneud synnwyr. Cemeg organig daniodd fy niddordeb gynta’ ac yn fuan roeddwn i eisiau gwybod popeth amdani.”

Myfyrwyr Fforensig yn cipio medalau

Mae dau fyfyriwr Gwyddoniaeth Fforensig o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill medalau mewn digwyddiadau CystadleuaethSgiliauCymru diweddar.

Mae Cerys Brooks, a enillodd fedal Arian, a Cara Morgan, a enillodd fedal Efydd, yn eu blwyddyn gyntaf yn astudio Cwrs BTEC Lefel 3.

Yn cystadlu yn erbyn myfyrwyr eraill ledled Cymru, roedd gofyn iddynt ddadansoddi tystiolaeth mewn man lle cyflawnwyd trosedd (rhithwir), yn ogystal â chreu braslun manwl.