Sesiynau am ddim ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion!
Wythnos Addysg Oedolion yw’r dathliad mwyaf o ddysgu yng Nghymru, a gydlynir gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Nod yr ymgyrch yw ysbridoli mwy o bobl i ddarganfod angerdd am ddysgu, dablygu sgiliau a dangos nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddechrau dysgu!
Diweddaru’ch sgiliau, gwella’ch cyflogadwyedd neu ddarganfod hobi newydd yn ystod Wythnos Addysg Oedolion gyda Choleg Gŵyr Abertawe
Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe amrywiaeth o gyrsiau a sesiynau blasu am ddim i oedolion sy’n ddysgwyr.
Mae’r Coleg bob amser wedi bod ag enw da iawn am addysg bellach, ond mae hefyd yn cynnig amrywiaeth mawr o gyrsiau hamdden a datblygiad proffesiynol gyda darpariaeth hyblyg i oedolion sy’n ddysgwyr. P’un ai ydych yn gobeithio rhoi hwb i’ch cyflogadwyedd, newid cyfeiriad eich gyrfa, diweddaru’ch sgiliau neu ddysgu rhywbeth newydd, pa bryd gwell i ymgeisio nag yn ystod Wythnos Addysg Oedolion?
Cyrsiau rhan-amser - Canolfan Gwallt, Harddwch a Holisteg Broadway
Rydym wedi trefnu’r sesiynau arweiniad canlynol i’r bobl sydd â diddordeb mewn cyrsiau rhan-amser yng Nghanolfan Broadway.
Ffoniwch ni ar 01792 284049 i gael rhagor o wybodaeth.
- Dydd Mercher 27 Mehefin, 5.30pm-7.30pm (Noson agored Campws Tycoch, prif adeilad)
- Dydd Llun 9 Gorffennaf, 3.30pm-4.30pm (Broadway)
- Dydd Iau 23 Awst, 12pm-1.30pm (Broadway)
- Dydd Mawrth 28 Awst, 3.30pm-4.30pm (Broadway)
- Dydd Iau 30 Awst, 12pm-1.30pm (Broadway)