Skip to main content

Iaith Gymraeg yn CGA

Croeso i'r canolbwynt ar gyfer popeth sy'n berthnasol i'r Gymraeg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Darganfod sut mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio yn y Coleg, cyrsiau, manteision a chefnogaeth i fyfyrwyr.
 

Cyrsiau ar gael yn Gymraeg

Rhestr gynyddol o gyrsiau sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg

Mynediad i Nyrsio a’r Proffesiynau Iechyd
Busnes
Dechrau Arni mewn Gwaith Coed 
Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
Sgiliau Adeiladu: Amlsgiliau
Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 1 - Diploma Rhagarweiniol
Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Oedolion, Plant a Phobl Ifanc - Lefel 2
Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau - Diploma Estynedig Lefel 3
Cyflwyniad i Letygarwch ac Arlwyo Lefel Mynediad 3
Coginio ac Arlwyo Proffesiynol Lefel 1
Peintio ac Addurno Lefel 3
Plastro Solet Lefel 3
Safon Uwch Addysg Gorfforol
Paratoi ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 2 - Tystysgrif Available in Welsh
Gwasanaethau Amddiffynnol mewn Lifrai Lefel 3
Chwaraeon Lefel 3 - Diploma Estynedig
Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Lefel 3 - Diploma Estynedig
Ymarfer Cyfieithu (Cymraeg) Lefel 4 - Prentisiaeth
 

Defnyddio'r Gymraeg yn y Coleg

Nod y Coleg yw hybu dimensiwn Cymreig, meithrin naws Gymreig a chefnogi addysg a diwylliant trwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydym yn ceisio gwneud y Gymraeg yn rhan naturiol o’r Coleg, fel y mae mewn rhai ardaloedd o’r ddinas.

Mae Safonau’r Gymraeg yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal â’r Saesneg a bod cyfleoedd i chi ddefnyddio’ch Cymraeg wrth astudio a defnyddio gwasanaethau’r Coleg.

Rydym yn gweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i greu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg ac i ysbrydoli dysgwyr, myfyrwyr a phrentisiaid i ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd ganddynt.

Rydym yn ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y buddsoddiad a’r gefnogaeth.

Manteision astudio yn Gymraeg

  • Ennyn gwell dealltwriaeth o’r pwnc gan eich bod yn dysgu, i bob pwrpas, yn y ddwy iaith
  • Cynnal sgiliau ieithyddol sydd eisoes wedi eu meithrin yn yr ysgol
  • Datblygu sgiliau gwybyddol
  • Datblygu sgiliau cyflogaeth gan fod galw am bobl ddwyieithog ym mhob math o swyddi
  • Rhoi sylfaen ardderchog i unrhyw yrfa
  • Cyfle i gwrdd â phobl newydd
  • Darparu gwasanaeth dwyieithog fel marc ansawdd
  • Ysgoloriaethau ar gyfer rhai cyrsiau yn y brifysgol.
Dydd Miwsig Cymru

Gweithgareddau Cymraeg 

Mae yna amrywiaeth o weithgareddau Cymraeg yn digwydd trwy gydol y flwyddyn yn y Coleg; Diwrnod Santes Dwynwen, Wythnos Gymraeg, Dydd Miwsig Cymru a fwy. 

Mae yna hefyd cyfleoedd i fynd ar deithiau Cymraeg fel ymweld â’r theatr, Glan Llyn a Gaerdydd.