Skip to main content

Busnes Lefel 3 - Diploma Estynedig

Amser-llawn
Lefel 3
BTEC Extended Diploma
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Trosolwg

Mae’r cwrs dwy flynedd hwn yn gyfwerth â thri chwrs Safon Uwch.

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys cyfle i ddysgwyr ymchwilio i amrywiaeth o bynciau sy’n adlewyrchu’r llwybrau dilyniant mewn busnes. Mae’r rhaglen ddysgu yn cwmpasu’r meysydd canlynol: amgylcheddau busnes, cyllid, marchnata, busnes rhyngwladol, rheolaeth ac adnoddau dynol.

Mae’r cwrs BTEC Busnes yn anelu at roi’r canlynol i fyfyrwyr:

  • Profiadau ymarferol o aseiniadau bywyd go iawn
  • Cyfleoedd i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain
  • Sylfaen wybodaeth gadarn
  • Cyfleoedd i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol a meddwl yn ymarferol
  • Gwybodaeth o sut i weithio i friff gydag amserlenni gosod, gan gefnogi eu galluoedd rheoli amser.

Dylech astudio BTEC Busnes os:

  • Mae’n well gennych ffordd fwy ymarferol o weithio
  • Mae gennych ddiddordeb mewn rhedeg eich busnes eich hun
  • Rydych yn barod i gymryd arweiniad i fod yn ddysgwyr annibynnol a gweithgar.

Gwybodaeth allweddol

  • Pump gradd C neu uwch ar lefel TGAU
  • Gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg.

Asesu:

  • Unedau a asesir yn fewnol
  • Unedau asesu dan reolaeth a asesir yn allanol
  • Uned arholiad a asesir yn allanol.

Meini prawf graddio:

  • Asesu mewnol (58%)
  • Asesu allanol (42%).

Asesir unedau gan ddefnyddio graddfa Rhagoriaeth (D), Teilyngdod (M), Pasio (P), Bron Wedi Pasio (N) ac Annosbarthedig (U) . Mae’r radd Bron Wedi Pasio yn cael ei defnyddio ar gyfer unedau a asesir yn allanol yn unig. Mae cymwysterau’n cael eu graddio gan ddefnyddio graddfa PPP i D*D*D*.

Gallech chi aros yng Ngholeg Gŵyr Abertawe i ddilyn cwrs Addysg Uwch cysylltiedig â busnes neu gyfrifeg. Bydd cwblhau’r cwrs BTEC yn llwyddiannus yn rhoi pwyntiau UCAS i ddysgwyr ac mae’n cael ei gydnabod gan brifysgolion ar gyfer astudio cyrsiau gradd.

Yn ogystal, gall dysgwyr symud ymlaen i gyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau ym meysydd marchnata, gweinyddu, cyllid, gwasanaethau ariannol, caffael, rheoli digwyddiadau, adnoddau dynol a meysydd cysylltiedig eraill yn y sector busnes.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Rydym hefyd yn cynnal Noson Agored Addysg Oedolion ddydd Mawrth 30 Mehefin lle galli di gofrestru wyneb yn wyneb.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.