Skip to main content

Busnes Lefel 3 gyda’r Sefydliad Marchnata Siartredig – Diploma Available in Welsh

Amser-llawn
Lefel 3
BTEC Diploma
Tycoch
Dwy flynedd
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i’r rhai sydd am astudio Gwasanaethau Ariannol, Marchnata a Rheolaeth Busnes.

BTEC Diploma (Cenedlaethol) Lefel 3 mewn Busnes

Bydd yn cynnig cyfle i’r myfyrwyr astudio nifer o swyddogaethau busnes gan gynnwys Marchnata, Adnoddau Dynol, Rheolaeth, a TG gyda phwyslais ar Gyllid (mae rhai unedau’n cynnwys arholiadau).

Mae unedau astudio’n cynnwys:

  • Archwilio Busnes
  • Datblygu Ymgyrch Marchnata (Allanol)
  • Cyllid Personol a Busnes (Allanol)
  • Rheoli Digwyddiad
  • Busnes Rhyngwladol  
  • Egwyddorion Rheolaeth (Allanol)
  • Hyrwyddo Busnes Newydd / Marchnata Digidol
  • Proses Recriwtio a Dethol.

Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) Lefel 3 – Tystysgrif Sylfaen

Mae’r cwrs Tystysgrif Sylfaen CIM Lefel 3 yn cyflwyno cysyniadau a therminoleg hanfodol marchnata, gan ddarparu man cychwyn cryf i unrhyw un sy’n cychwyn ar eu taith marchnata.

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys dwy uned a asesir ac mae’n rhoi dealltwriaeth glir i chi o:

  • Rôl a swyddogaeth marchnata o fewn sefydliadau
  • Y ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiad defnyddwyr
  • Elfennau allweddol yr amgylchedd marchnata
  • Strategaethau craidd o fewn marchnata digidol.

Perffaith i farchnatwyr newydd neu ddarpar farchnatwyr, mae’r cymhwyster hwn yn cynyddu’r wybodaeth a’r hyder sydd eu hangen er mwyn symud ymlaen mewn marchnata ac mae’n gosod y sylfeini ar gyfer gyrfa lwyddiannus.

Unedau astudio’n cynnwys:

  • Hanfodion marchnata
  • Cynnwys a sianeli.

Asesiad: Arholiad dewis lluosog.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf bum gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg
  • Neu broffil Teilyngdod BTEC Diploma lefel 2 mewn Busnes a TGAU Saesneg.

Mae cyfweliad yn ofynnol.
 

Prifysgol neu gyflogaeth.

Bydd holl fyfyrwyr Blwyddyn 2 yn cymryd rhan mewn ymweliad Rhyngwladol/yn y DU a ariennir gan y myfyriwr. 

Ffi cofrestru’r myfyriwr: £40.