Skip to main content

Mynediad i Beirianneg

Amser-llawn
Lefel 3
AGORED
Tycoch
Un blwyddyn
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Cyfle cyflym i unrhyw un 19 oed neu'n hŷn i ennill cymhwyster cydnabyddedig a fydd yn rhoi modd iddynt ddilyn cyrsiau lefel prifysgol fel HNC, HND neu Radd mewn Peirianneg.

Bydd y rhaglen Lefel 3 un flwyddyn hon yn rhoi sgiliau sylfaenol i chi mewn mathemateg, gwyddoniaeth a phynciau cysylltiedig â pheirianneg er mwyn i chi symud ymlaen i nifer o sectorau peirianneg, e.e. peirianneg awyrennol, sifil, cemegol, biofeddygol, chwaraeon moduro neu niwclear.

Gwybodaeth allweddol

Pum gradd C neu uwch ar lefel TGAU neu’r cyfwerth mewn pynciau mathemateg, Saesneg a gwyddoniaeth. Bydd sgiliau diwydiant yn cael eu hystyried.

Addysgir y cwrs am 12 awr dros 2.5 ddiwrnod yr wythnos. Bydd gwersi rhwng 9.30am a 3.30pm ac yn ystod y tymor yn unig.

Mae’r cwrs yn cynnwys modiwlau academaidd (e.e. peirianneg, mathemateg a gwyddoniaeth ddamcaniaethol) a chyfrifiadurol (e.e. CAD),

a addysgir wyneb yn wyneb gan ddarlithydd arbenigol yn y pwnc.

Byddwch yn cael mynediad i amrywiaeth o adnoddau electronig a byddwch yn cael tiwtor i helpu i gefnogi’ch dysgu a’ch dilyniant.

Cewch eich asesu’n barhaus ym mhob modiwl gyda chymysgedd o brofion, aseiniadau a gwaith prosiect yn y dosbarth.

Bydd holl ddeunyddiau’r cwrs a Microsoft Office 365 ar gael am ddim.

Bydd angen arnoch gyfrifiannell wyddonol, cof bach, nwyddau ysgrifennu a gliniadur neu ddyfais ar gyfer gweithio o bell a chyfathrebu â’ch darlithwyr.