Skip to main content

Cynnal a Chadw Beiciau Lefel 2 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 2
C&G
Llys Jiwbilî
18 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r cwrs hwn yn addas i’r rhai sy’n ystyried gweithio yn y diwydiant Cynnal a Chadw Beiciau neu’r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant ac yn ystyried cyflawni cymwysterau ffurfiol.

Mae modiwlau’n cynnwys:

  • Cydosod ac addasu beiciau, ac alinio’r ffrâm
  • Setiau llaw, gerau, brêcs ymylon – tynnu, ffitio, cydosod ac addasu
  • Disgiau brêcs a gwaedu hydrolig
  • Adeiladu olwynion
  • Gwasanaethu hongiad
  • Gwybodaeth o e-feiciau
  • Iechyd a Diogelwch
  • Arferion gweithdy
  • Sgiliau Gwasanaeth Cwsmeriaid
  • Sgiliau Busnes
  • Sgiliau Gwerthu.

Gwybodaeth allweddol

Addysgir y cwrs yn ein gweithdy arbenigol Cynnal a Chadw Beiciau. 

Byddwch chi’n dod i’r Coleg ddau ddiwrnod y mis a byddwch chi’n treulio gweddill yr amser yn y gweithle perthnasol. 

Bydd asesiadau’n cael eu cynnal yn ein gweithdy a gallen nhw gael eu cynnal yn eich gweithle hefyd. 

Cymhwyster Lefel 3 Cytech Profession.

Bydd angen esgidiau diogelwch arnoch.