Skip to main content

Asesiad Risg Codi a Chario Lefel 3 - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 3
NEBOSH
Llys Jiwbilî
Un diwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n ymwneud ag asesu a mynd i'r afael â risgiau codi a chario. 

Mae’n gyffredin i bobl sy’n gweithio mewn rolau megis gweithwyr iechyd a diogelwch proffesiynol, hyrwyddwyr gweithlu, cynrychiolwyr gweithwyr ac ymarferwyr iechyd galwedigaethol gael y cyfrifoldebau hyn.

Trwy gwblhau’r cymhwyster hwn, byddwch yn medru:

  • Egluro pwysigrwydd lleihau risgiau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau codi a chario
  • Deall y cyfrifoldebau sy’n ymwneud â chodio a chario
  • Egluro beth yw risgiau codi a chario a sut y gallant arwain at anafiadau
  • Arddangos ac ymarfer technegau asesu risg a chodi a chario priodol
  • Defnyddio agweddau ehangach ar reoli risgiau codi a chario

Gwybodaeth allweddol

Bydd darpariaeth y cwrs yn cael ei gadarnhau ar ôl i chi fwcio. Efallai y bydd y cymhwyster yn cael ei gyflwyno yn Llys Jiwbilî neu Ysgol Fusnes Sgeti. 

Os oes gan ddysgwr anghenion dysgu ychwanegol, bydd angen o leiaf 6 wythnos o rybudd arnom i roi’r prosesau gofynnol ar waith. 

Os ydych yn bwcio o fewn y cyfnod hwn o chwe wythnos a bod angen cymorth ychwanegol ar ddysgwr, a fyddech cystal ag ystyried bwcio dyddiad diweddarach neu rhowch wybod i ni wrth i chi fwcio.