Skip to main content

Rheoliadau Gwifro IET 18eg Argraffiad (BS7671) - Cwrs

GCS Training
Lefel 3
Tycoch
10 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn bennaf yn addas i drydanwyr ac ymarferwyr eraill ym myd diwydiant y mae angen y cymhwyster arnynt i wneud gweithgareddau pob dydd yn y gwaith. Mae’r cwrs yn rhoi gwybodaeth weithredol o’r Rheoliadau IET cyfredol i ymgeiswyr ar gyfer gosodiadau trydanol, BS 7671:2008 (2018), gan sicrhau eich bod yn cydymffurfio â safonau a gofynion diwydiant. 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gymwysedig yn ôl gofynion y JIB at ddibenion graddio ac ailraddio.  

Gwybodaeth allweddol

Disgwylir i ymgeiswyr feddu ar gymwysterau perthnasol yn y grefft a/neu wybodaeth weithredol o’r diwydiant trydanol.

Caiff pob cais ei ystyried ar deilyngdod unigol; ond mae’n bosibl na fydd angen cymwysterau ffurfiol yn dibynnu ar brofiad.

Yn dibynnu ar eich sgiliau, mae’n bosibl y bydd angen cyfweliad dros y ffôn. 

Bydd y cwrs yn cynnwys cyfarwyddiadau ystafell ddosbarth, wedi’u dilyn gan arholiad llyfr agored dwy awr.

Gallwch ddilyn y cwrs am bedwar diwrnod yn olynol, neu fynd i ddosbarth nos (6pm tan 9pm) am 10 wythnos.

EAL 6337/6338 Arolygu a Phrofi – Cwrs Cyfunol