Skip to main content

Systemau Pwmp Gwres BPEC - Cymhwyster

GCS Training
BPEC
Tycoch
Pedwar diwrnod
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer peirianwyr sy’n gweithio ym maes gwasanaethau adeiladu, a bydd dysgwyr yn datblygu a defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i osod, comisiynu, archwilio, gwasanaethu a chynnal a chadw systemau pwmp gwres - nad yn cael eu defnyddio mewn oergelloedd - mewn amgylchedd domestig.

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, gall dysgwyr sicrhau achrediad MCS neu ymuno â chynlluniau gan unigolion cymwys i gofrestru gosodiadau.

Gwybodaeth allweddol

Bydd angen i ddysgwyr ddarparu tystiolaeth o gymhwysedd mewn:

  • Rheoliadau dŵr/Is-ddeddfau dŵr (WRAS, BPEC, ERC neu gyfwerth)
  • Systemau storio dŵr poeth domestig heb ei awyru (UVDHW) (ERS, BPEC neu gyfwerth)
  • Effeithiolrwydd ynni ar gyfer gwresogi domestig (City and Guilds 6084 neu gyfwerth)

Efallai y byddwn yn cynnal cyfweliad byr gyda thiwtor y cwrs.

Cyflwynir y cwrs dros gyfnod o bedwar diwrnod, gan gynnwys un diwrnod asesu yng Nghanolfan Ynni Coleg Gŵyr Abertawe ar Gampws Tycoch.

  • Systemau Dŵr Poeth Solar Thermol BPEC (NOS wedi'i fapio)
  • Gosod a Chynnal a Chadw Nwy Naturiol ACS
  • Gosod a Chynnal a Chadw Nwy ACS LPG

Asesir y cwrs trwy gyfres o arholiadau amlddewis ar-lein, ynghyd â chyfarwyddyd ac asesiad ymarferol.

Pris y cwrs yw £650, a fydd yn cynnwys cofrestru, llawlyfr a thystysgrif.

Mae’n hanfodol i ddysgwyr ddod â phrawf o bwy ydyn nhw (llun) ar ddiwrnod yr arholiad. Os na fyddant yn gwneud hyn, mae’n bosib na fyddant yn cael sefyll yr arholiad.