Skip to main content

Ymwybyddiaeth Amgylcheddol yn y Gwaith (NEBOSH) Lefel 3 - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 3
NEBOSH
Llys Jiwbilî
Un diwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Bydd y cwrs hwn yn cynnig cyflwyniad defnyddio i faterion amgylcheddol yn y gwaith. Mi fydd yn nodi’r rolau y gall gweithwyr eu chwarae wrth wella perfformiad amgylcheddol sefydliadol a helpu staff i ddeall effeithiau amgylcheddol a rheoli risgiau. 

Bydd y cymhwyster yn eich galluogi i ddeall: 

  • Sylfeini ymwybyddiaeth amgylcheddol
  • Ystyr amgylchedd, cynefinoedd, ecosystemau, llygredd a chynaliadwyedd
  • Pwysigrwydd a buddion datblygiad cynaliadwy
  • Systemau Rheoli Amgylcheddol
  • Llygredd, asesiadau effaith ac argyfyngau 
  • Egwyddorion ac arferion asesu effaith (risg)
  • Prif ffynonellau, mathau, rheolaethau ac effeithiau llygredd aer
  • Prif ffynonellau, mathau, rheolaethau ac effeithiau llygredd dŵr
  • Prif ffynonellau, mathau, rheolaethau ac effeithiau sŵn amgylcheddol
  • Mathau o wastraff a rheoli gwastraff
  • Pwysigrwydd a buddion datblygiad cynaliadwy
  • Sut i ymdrin ag argyfwng

Gwybodaeth allweddol

Bydd darpariaeth y cwrs yn cael ei gadarnhau ar ôl i chi fwcio. Efallai y bydd y cymhwyster yn cael ei gyflwyno yn Llys Jiwbilî neu Ysgol Fusnes Sgeti. 

Bydd y cwrs yn cael ei asesu drwy asesiad ar-lein 50 munud a bydd angen i chi gwblhau’r asesiad hwn dau ddiwrnod ar ôl y tiwtorial. 

Os oes gan ddysgwr anghenion dysgu ychwanegol, bydd angen o leiaf 6 wythnos o rybudd arnom i roi’r prosesau gofynnol ar waith. 

Os ydych yn bwcio o fewn y cyfnod hwn o chwe wythnos a bod angen cymorth ychwanegol ar ddysgwr, a fyddech cystal ag ystyried bwcio dyddiad diweddarach neu rhowch wybod i ni wrth i chi fwcio.