Skip to main content

Mynediad i Les Cymdeithasol / Gwaith Cymdeithasol

Amser-llawn
Lefel 3
AGORED
Tycoch
34 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Access

Mae Diploma Mynediad i Les Cymdeithasol / Gwaith Cymdeithasol AU yn rhaglen lwyddiannus sy’n paratoi myfyrwyr hŷn neu bobl sy’n newid gyrfa ar gyfer addysg uwch alwedigaethol neu academaidd.

Mae’r cwrs yn un academaidd yn bennaf ac iddo unedau sgiliau astudio, sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer addysg uwch. Rhestrir yr unedau astudio isod:

  • Cyflwyniad i syniadau gwleidyddol
  • Polisi cymdeithasol a lles
  • Damcaniaethau tlodi ym Mhrydain
  • Gwahaniaethu
  • Cyflwyniad i droseddeg
  • Dimensiynau i drosedd a chyfiawnder
  • Hil yng nghymdeithas Prydain
  • Cymdeithasoli a diwylliant
  • Sgiliau ymchwil
  • Adrodd gwaith ymchwil
  • Datblygiad dynol - camau bywyd
  • Cymdeithaseg y teulu
  • Seicopatholeg
  • Seicoleg a rheoli straen
  • Sgiliau hanfodol – sgiliau cyflwyno TGCh
  • Sgiliau astudio mynediad hanfodol
  • Sgiliau arholiad ac adolygu
  • Cyfathrebu ysgrifenedig

Rheolau Cyfuno ar gyfer Diploma AHE (Gwaith Cymdeithasol)

Lefel 2

Mathemateg = 9

Cyfanswm Lefel 2 = 9

Lefel 3

Sgiliau Cyfathrebu ar gyfer Mynediad i Addysg Uwch HC83CY007 = 3

Rhoi Cyflwyniad Llafar HC73CY142 = 3

Cyfanswm Lefel 3 = 6

Diweddarwyd Ionawr 2021



 

Gwybodaeth allweddol

Rhaid i ymgeiswyr gwblhau cwrs cyn-fynediad neu gwblhau asesiad mynediad yn llwyddiannus.

Addysgir y cwrs drwy wersi, darlithoedd, siaradwyr gwadd, arddangosiadau / arsylwadau clinigol yn ogystal â thrafodaethau anffurfiol a sesiynau holi ac ateb. 

Asesir y cwrs trwy gyflwyno traethodau, adroddiadau, a phortffolios o waith. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael eu hasesu trwy gyflwyniadau ac asesiadau wedi’u hamseru yn yr ystafell ddosbarth. 

Ochr yn ochr â’r Diploma Mynediad rhaid i fyfyrwyr sy’n gwneud cais am y radd gwaith cymdeithasol ddarparu tystiolaeth (210 awr) o brofiad ymarferol trwy waith â thâl neu waith gwirfoddol.

Dilyniant posibl yw cyrsiau AU.

Mae’r cwrs yn rhoi’r gofynion academaidd i’r myfyrwyr fel y gallant symud ymlaen i’r brifysgol i astudio gwaith cymdeithasol, polisi cymdeithasol, gwaith ieuenctid, troseddeg, seicoleg, hyfforddiant athrawon a nifer o raglenni gradd eraill i fyfyrwyr.

Mae myfyrwyr wedi symud ymlaen yn eu cyflogaeth bresennol ar ôl cwblhau’r cwrs ac mae rhai myfyrwyr wedi cael gwaith ym maes cynorthwyydd / gweithiwr cymorth gofal iechyd, gwaith ieuenctid neu gynorthwyydd addysgu.