Safon Uwch Technoleg Ddigidol

Amser llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Trwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn archwilio’r hanes hynod ddiddorol a’r datblygiadau blaengar mewn technolegau digidol. Darganfyddwch sut mae’r technolegau hyn yn siapio ein bywydau a’n cymdeithas. Byddwch yn ennill sgiliau ymarferol mewn datblygu gemau a chreu cynnwys arloesol ar y we ac amlgyfrwng. Byddwch hefyd yn dysgu am effeithiau cyfreithiol, cymdeithasol, moesegol, proffesiynol ac amgylcheddol technolegau digidol. Paratowch i ddatgelu eich potensial a dod yn arbenigwr datrys problemau, gan ddod o hyd i atebion effeithiol i heriau’r byd go iawn a wynebir gan sefydliadau. 

Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych ddealltwriaeth gadarn o gylchred oes datblygu systemau a’i natur ailadroddus. P’un a ydych yn breuddwydio am yrfa mewn technoleg ddigidol neu’n dymuno datblygu’ch addysg yn y maes hwn, bydd y cwrs hwn yn gosod y sylfaen ar gyfer eich llwyddiant. 

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

  • O leiaf saith gradd ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg laith

Dull Addysgu’r Cwrs

Rhennir y cwrs yn gyfartal rhwng arholiadau ar y sgrin a thasgau ymarferol. 

Safon UG Blwyddyn 1 (40% o Safon Uwch) 

  • Arholiad ar y sgrin: Arloesedd mewn technoleg ddigidol 
  • Tasg arferion digidol creadigol: Prosiect yn creu gêm gan ddefnyddio GameMaker Studio 

Mae’r ddwy uned yn werth 50% o Safon UG ac 20% o’r Safon Uwch lawn. 

Safon Uwch Blwyddyn 2 (60% o Safon Uwch) 

  • Arholiad ar y sgrin: Systemau cysylltiedig 
  • Tasg atebion digidol: Prosiect yn creu gwefan drafodiadol 

Mae’r ddwy uned yn werth 50% o Safon U2 a 30% o’r Safon Uwch lawn. 

Cyfleoedd Dilyniant

Mae cyflawni Safon Uwch mewn Technoleg Ddigidol yn agor byd o gyfleoedd dilyniant cyffrous. Os ydych am ddatblygu eich addysg, mae llawer o brifysgolion yn cynnig rhaglenni gradd perthnasol fel Cyfrifiadureg, Peirianneg Meddalwedd, Cyfryngau Digidol, neu Dechnoleg Gwybodaeth. 

Fel arall, efallai yr hoffech ddilyn prentisiaeth mewn meysydd fel datblygu meddalwedd, marchnata digidol, neu ymgynghoriaeth TG. Bydd y rhain yn eich galluogi i gael profiad ymarferol wrth ennill cyflog, gan gyfuno hyfforddiant yn y gwaith ag astudiaeth academaidd. 

Yn ogystal, efallai y byddwch am ymuno â’r gweithlu, gan ddefnyddio’ch cymhwyster Safon Uwch i sicrhau swyddi lefel mynediad mewn amrywiol ddiwydiannau, megis datblygu gwefan, marchnata digidol, neu ddadansoddi data. Mae maes deinamig technoleg ddigidol yn cyflwyno amrywiaeth eang o lwybrau addawol ar gyfer datblygiad gyrfa a thwf personol. 

 

Hoffech chi astudio'r cwrs hwn?

Ymgeisiwch nawr!