Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cwrs dwy flynedd hwn yn gyfwerth â thair Safon Uwch. Nod y cwrs yw datblygu’ch sgiliau meddwl, ymchwil, ymarferol a rhyngbersonol yn gyfannol mewn meysydd fel marchnata, cyllid, adnoddau dynol a rheoli.
Mae unedau astudio’n cynnwys:
- Archwilio busnes
- Datblygu ymgyrch farchnata
- Cyllid busnes a phersonol
- Rheoli digwyddiad
- Busnes rhyngwladol
- Egwyddorion rheoli
- Gwneud penderfyniadau busnes.
Ochr yn ochr â’r cwrs byddwch hefyd yn astudio’r Dystysgrif Uwch-sgiliau lle byddwch yn cyflawni cymhwyster safon Uwch. Gallwch ddewis astudio cwrs Safon Uwch cysylltiedig ochr yn ochr â’r cwrs hwn hefyd.
21/10/22
Gofynion Mynediad
O leiaf bum gradd C neu uwch ar lefel TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg. Neu byddwn yn ystyried cymhwyser Lefel 2 cysylltiedig ochr yn ochr â gradd C neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg ar lefel TGAU.
Dull Addysgu’r Cwrs
Mae cyfuniad o addysgu damcaniaethol ac ymarferol.
Mae’r asesiad yn seiliedig ar gyflawni canlyniadau penodol (aseiniadau) mewn perthynas â’r unedau astudio a addysgir. Mae pob uned yn cael ei graddio’n unigol fel Pas, Teilyngdod neu Ragoriaeth. Byddwch yn treulio 18 awr yr wythnos yn yr ystafell ddosbarth. Bydd angen cryn dipyn o waith ychwanegol ar bob cwrs Lefel 3 y tu allan i’r ystafell ddosbarth.
Cyfleoedd Dilyniant
Yn y Coleg gallwch symud ymlaen i’r cwrs HND Rheoli Busnes neu’r cwrs Gradd Sylfaen mewn Rheoli Digwyddiadau
Astudiaethau pellach yn y brifysgol mewn pwnc cysylltiedig.
Hyfforddiant rheoli yn y sectorau preifat/cyhoeddus, banciau neu sefydliadau ariannol.
Mae’r cwrs hwn hefyd yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddechrau busnes bach.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd holl fyfyrwyr Blwyddyn 2 yn cymryd rhan mewn ymweliad rhyngwladol/yn y DU a ariennir gan y myfyriwr. Bydd gwibdeithiau i ganolfannau busnes lleol a bydd rhaid i fyfyrwyr gyfrannu at y rhain.