Trosolwg o’r Cwrs
Byddwch yn dysgu sut i ysgrifennu rhaglenni cyfrifiadurol, cael eich cyflwyno i rwydweithiau, cronfeydd data a systemau gweithredu a dysgu am fathemateg a theori cyfrifiadureg.
Byddwch yn darganfod sut mae angen meddalwedd ddibynadwy y gellir ei defnyddio ar apiau ffonau symudol, systemau llywio lloeren, awtobeilotiaid a hyd yn oed effeithiau arbennig ffilmiau.
Diweddarwyd Hydref 2021
Gofynion Mynediad
Naill ai gradd B mewn TGAU Mathemateg a Saesneg neu radd C mewn TGAU Cyfrifiadureg.
Dull Addysgu’r Cwrs
Mae’r cwrs yn helaeth ac mae’n cynnwys:
- Rhaglennu cyfrifiadurol
- Creu meddalwedd gyfrifiadurol, e.e. rhaglennu cronfeydd data, rhaglennu gemau, datblygu apiau
- Egwyddorion sylfaenol gwyddoniaeth gyfrifiadurol gan gynnwys tynnu, dadelfennu, rhesymeg, algorithmau a chynrychioli data
- Dadansoddi problemau mewn termau cyfrifiadurol trwy brofiad ymarferol o ddatrys problemau o’r fath
- Mathau o ddata a strwythurau data
- Trefnu ffeiliau a systemau cronfa ddata
- Cynhyrchu atebion strwythuredig i broblemau cyfrifiadurol
- Dylunio a dadansoddi systemau
- Profi system
- Systemau gweithredu
- Pensaernïaeth systemau cyfrifiadurol
- Mathemateg a theori cyfrifiadureg
Cyfleoedd Dilyniant
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallech symud ymlaen i’r cwrs HND Cyfrifiadura Cymhwysol.
Dilyniant i gwrs prifysgol – gan fod rhaglenni a chymwysiadau cyfrifiadurol yn rhan annatod o bob agwedd ar fywyd modern ac oherwydd y sgiliau trosglwyddadwy niferus a ddatblygir, mae’r pwnc hwn yn addas i’w astudio mewn cyfuniad â nifer o bynciau eraill, ar Safon Uwch ac mewn addysg uwch.
Gyrfaoedd mewn amrywiaeth o ddiwydiannau megis ymchwil a datblygiad, animeiddio ffilmiau a rhaglennu.