Skip to main content

Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Lefel 3 - Diploma

Amser-llawn
Lefel 3
Diploma
Gorseinon
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Bwriad y cwrs blwyddyn cynhwysfawr hwn, sef Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Lefel 3, yw rhoi dealltwriaeth drylwyr i chi o’r systemau trydanol a mecanyddol a ddefnyddir mewn cerbydau modur. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn ennill gwybodaeth a sgiliau mewn gweithredu cerbydau, cynnal a chadw systemau, diagnosteg ac atgyweirio. 

Modiwlau:  

  • Iechyd, diogelwch a chadw tŷ da yn yr amgylchedd modurol 
  • Cefnogaeth ar gyfer rolau swyddi yn yr amgylchedd gwaith modurol 
  • Defnyddiau, ffabrigo, offer a dyfeisiau mesur a ddefnyddir yn yr amgylchedd modurol 
  • Canfod a chywiro namau injans cerbydau ysgafn 
  • Canfod a chywiro namau siasi cerbydau ysgafn 
  • Canfod a chywiro systemau trydanol ategol cerbydau ysgafn 
  • Canfod a chywiro namau trawsyrru a llinell yriant cerbydau ysgafn 
  • Canfod a chywiro cydrannau trydanol ategol. 

Gwybodaeth allweddol

 
Cwblhau’n llwyddiannus ein cymhwyster Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau.


Mae ein cwrs yn rhoi sylw i arddangosiadau ymarferol a thasgau ymarferol i ddatblygu eich sgiliau. Mae sesiynau ystafell ddosbarth yn darparu gwybodaeth ddamcaniaethol, a gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar y dysgwr i’ch annog i gymryd rhan. Byddwch yn dangos eich sgiliau trwy senarios gwaith realistig.

Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Modur (Lefel 3) Cyflogaeth yn y diwydiant neu astudio ar gyfer cymhwyster HND mewn pwnc cysylltiedig.

Mae’r eitemau canlynol yn hanfodol er mwyn cwblhau’r cwrs:

  • Cyfarpar diogelu personol sy’n cydymffurfio â safonau diogelwch Prydeinig
  • Deunydd ysgrifennu amrywiol
  • Trwydded pecyn dysgu electronig Electude.