Safon Uwch Dawns  

Amser llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Trwy ddosbarthiadau technegau a gweithdai byddwch yn archwilio amrywiaeth o arddulliau dawns, gan gynnwys cyfoes, bale, jazz a repertoire gan yr ymarferwyr/meysydd astudio a ddewiswyd. Gyda phwyslais ar goreograffi a pherfformio, byddwch yn gwella eich sgiliau artistig ac yn magu hyder wrth fynegi eich llais creadigol eich hun. 

Yn sail i’ch dysgu ymarferol mae astudiaeth ddamcaniaethol yn darparu ffocws priodol i ymgysylltu’n feirniadol â dawns a deall y rhyngberthynas rhwng creu, cyflwyno a gwerthfawrogi dawns. Egni ac ymrwymiad yw’r prif ofynion ar gyfer y cwrs corfforol a meddyliol hwn. 

Amcanion y cwrs:   

  • Datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o dechnegau ac arddulliau dawns 
  • Meithrin creadigrwydd a sgiliau coreograffig 
  • Gwella galluoedd perfformio a phresenoldeb llwyfan 
  • Datblygu sgiliau dadansoddi beirniadol a gwerthuso mewn perthynas â dawns. 

Canlyniadau’r cwrs: 

  • Ennill gwybodaeth eang am hanes dawns a gwahanol arddulliau 
  • Datblygu hyfedredd mewn coreograffi a pherfformio darnau dawns 
  • Arddangos dealltwriaeth feirniadol o ddawns trwy asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol 
  • Paratoi ar gyfer astudiaeth bellach neu yrfa mewn dawns, addysg uwch neu gyflogaeth.   

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg 
  • Diddordeb byw mewn dawns ac ymrwymiad i ddysgu. Mae profiad o ddawns yn fuddiol, ond nid yw’n hanfodol 
  • Rydym yn croesawu myfyrwyr o gefndiroedd dawns amrywiol 

Dull Addysgu’r Cwrs

Addysgir y cwrs trwy gyfuniad o weithdai ymarferol, gwersi theori, a chyfleoedd perfformio.   

Asesu:   

YMARFEREOL
Perfformiad unawd cysylltiedig ag ymarferwr penodedig mewn maes astudio. Perfformiad mewn pedwarawd. Coreograffi grŵp.   

Sut mae’n cael ei asesu:

  • Arholiad ymarferol  
  • 80 marc  
  • 50% o Safon Uwch.   

THEORI  
Gwybodaeth, dealltwriaeth a gwerthfawrogiad beirniadol o ddau waith gosod. 
Un gwaith gosod gorfodol o fewn y maes astudio gorfodol 
Un gwaith gosod dewisol o fewn y maes astudio cyfatebol – mae dewis o bedwar.

Sut mae’n cael ei asesu:

  • Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 30 munud 
  • 100 marc 
  • 50% o Safon Uwch. 

Cwestiynau 
Dwy adran: 
Adran A: cwestiynau ateb byr (25 marc) 
ac un cwestiwn traethawd (25 marc) ar y gwaith gosod gorfodol/maes astudio. 
Adran B: dau gwestiwn traethawd ar yr ail waith gosod/maes astudio 
(25 marc am bob traethawd).

Cyfleoedd Dilyniant

Ar ôl cwblhau’r cwrs Safon Uwch Dawns yn llwyddiannus, byddwch yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i ddilyn llwybrau amrywiol o fewn y diwydiant dawns. Mae llwybrau dilyniant posibl yn cynnwys: 

Addysg Uwch: Gallech symud ymlaen i gyrsiau dawns lefel prifysgol, fel BA (Anrh) Dawns, Gwyddor Dawns, neu Addysg Dawns. 
Hyfforddiant Proffesiynol: Gallech ystyried hyfforddiant dawns galwedigaethol mewn sefydliadau dawns nodedig. 
Gyrfaoedd Perfformio: Gallech ddilyn gyrfa fel dawnsiwr, coreograffydd, athro/athrawes dawns, neu therapydd dawns. 
Gweinyddu’r Celfyddydau: Gallech archwilio cyfleoedd ym maes rheoli dawns, cynhyrchu, neu guradu. Bydd ein cynghorwyr gyrfaoedd ymroddedig yn rhoi arweiniad a chymorth, gan eich helpu i lunio eich dyfodol ym myd bywiog dawns. 

 

Archwiliwch y lleoliad hwn mewn 3D


Hoffech chi astudio'r cwrs hwn?

Ymgeisiwch nawr!