Skip to main content

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau - Diploma Estynedig Lefel 3 Available in Welsh

Amser-llawn
Lefel 3
BTEC Extended Diploma
Tycoch, Gorseinon
Dwy flynedd
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch), 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Mae’r cwrs dwy flynedd hwn yn archwilio amrywiaeth o faterion cyfredol ac amserol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. 

Mae’r cymhwyster yn rhoi modd i chi ddatblygu a dangos gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o fewn cyd-destun gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. 

Amcanion y Cwrs: 

  • Ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o gyfrifoldebau proffesiynol, rolau ac atebolrwydd gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol o fewn y sector 
  • Dysgu am ddeddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, codau ymddygiad ac arferion proffesiynol sy’n cefnogi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn eu rolau 
  • Byddwch yn ychwanegu at eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o weithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol trwy addysgu yn yr ystafell ddosbarth a bydd rhaid i chi ymgysylltu â’r sector hefyd 
  • Deall pa mor bwysig yw perthnasoedd cadarnhaol, ymddiriedaeth, cyfathrebu effeithiol. 

Canlyniadau’r Cwrs:  

  • Sylfaen addas o iechyd a gofal cymdeithasol trwy amrywiaeth o gyrsiau addysg uwch, neu brentisiaethau 
  • Deall y gwerthoedd sydd wrth wraidd sgiliau a rhinweddau iechyd a gofal cymdeithasol a’u cymhwyso i amrywiaeth o leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, fel canolfannau dydd, cartrefi gofal a gwasanaethau anghenion ychwanegol. 

Gwybodaeth allweddol

Pum gradd A-C ar lefel TGAU gan gynnwys Mathemateg, Saesneg Iaith a Gwyddoniaeth.

Dros bum diwrnod yr wythnos 9:00 – 16:30 

Asesu: 

Dros ddwy flynedd, bydd myfyrwyr yn cwblhau dau arholiad allanol a saith asesiad di-arholiad. 

Meini Prawf Graddio: 

Mae cymhwyster llawn yn gyfwerth â thri chymhwyster Safon Uwch ac mae modd cyflawni graddau o A*A*A* - EEE. 

Mae dilyniant i Addysg Uwch yn bosibl gyda’r cymhwyster llawn. Gallai hyn gynnwys: 

  • Iechyd 
  • Gofal cymdeithasol 
  • Blynyddoedd cynnar 
  • Therapi lleferydd ac iaith 
  • Seicoleg a chwnsela 
  • Bydwreigiaeth 
  • Therapi galwedigaethol 
  • Addysg. 

Yn ogystal, mae gennym fyfyrwyr sydd wedi symud ymlaen i’n cyrsiau Addysg Uwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, fel cyrsiau Gradd Sylfaen mewn Plentyndod Cynnar a Gradd Sylfaen mewn Gwaith Cymunedol.