Trosolwg o’r Cwrs
Ar y cwrs blwyddyn hwn byddwch yn datblygu dealltwriaeth o’r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant : Cymhwyster Craidd ochr yn ochr â’r cymhwyster hwn.
Mae meysydd astudio’n cynnwys:
- Egwyddorion a gwerthoedd
- Iechyd a diogelwch
- Iechyd a lles, dysgu a datblygiad
- Ymarfer proffesiynol.
Byddwch chi hefyd yn astudio llythrennedd, rhifedd a sgiliau hanfodol a bydd gofyn i chi wneud lleoliadau gwaith mewn gofal preswyl a gofal nyrsio, canolfannau teuluoedd a sefydliadau gwirfoddol.
Gellir addysgu elfennau o’r cwrs hwn drwy gyfrwng y Gymraeg.
Diweddarwyd Tachwedd 2020
Gofynion Mynediad
Dwy radd C ar lefel TGAU (Saesneg yn ddelfrydol) a graddau D ychwanegol neu gwrs Lefel 1 gyda 90% presenoldeb wedi’i ategu gan leoliad gwaith. Rhaid i chi gwblhau DBS cyn cofrestru ar y cwrs. Mae’n costio tua £40.
Cyfleoedd Dilyniant
Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Lefel 3).
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae crysau polo yn costio £10 a bydd angen dau arnoch.
Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol ar gyfer gwibdeithiau a byddwn yn esbonio’r rhain ar y pryd.