Technegydd Peirianneg Electronig Rhaglen Beirianneg Fanylach (Diploma L3)

Amser llawn
Lefel 3
EAL
Tycoch
one year
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Ar y cwrs (blwyddyn hwn cyfwerth ag un Safon Uwch a hanner) byddwch yn archwilio byd peirianneg electronig gan gynnwys dadansoddi a chreu atebion, gyda phartneriaid diwydiannol, i broblemau go iawn.

Bydd y modiwlau astudio’n cynnwys:

  • Radio a radar
  • Atebion clyweled
  • Systemau cyfrifiadurol
  • Integreiddio digidol yn y cartref
  • Electroneg ddiwydiannol
  • Roboteg
  • Deallusrwydd artiffisial AI
  • Dylunio PCB
  • PLC
  • Cystadlaethau sgiliau

25/10/22

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Pedair gradd A-C ar lefel TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu gymhwyster electroneg ar Lefel 2.

Dull Addysgu’r Cwrs

Addysgir y cwrs gyda chymysgedd o waith ymarferol a theori. Mae’r rhan fwyaf o’r dysgu a’r addysgu yn digwydd mewn amgylchedd ymarferol.

Asesir y cwrs drwy gydol y rhaglen ddysgu gydag asesiadau modiwlaidd rheolaidd. Yn ystod y cwrs hwn caiff y myfyrwyr eu hannog a’u cefnogi i gael hyd i leoliad gwaith am un diwrnod yr wythnos drwy gydol y cwrs. Mae hyn wedi meithrin cysylltiadau ardderchog â byd diwydiant sydd fel arfer yn gallu arwain at gyflogaeth. Byddwch yn treulio pedwar diwrnod yn y Coleg ac un diwrnod yr wythnos gyda chyflogwr.

Cyfleoedd Dilyniant

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallai myfyrwyr symud ymlaen i’r cwrs HND mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig

Bwriad y cwrs hwn yw helpu myfyrwyr i ymuno â’r farchnad swyddi trwy brentisiaeth. Fodd bynnag, mae hefyd yn bosibl ddechrau addysg uwch gyda’r cymhwyster hwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Rhaid i chi sicrhau bod gennych offer dysgu megis:

  • Papur
  • Pennau
  • Cyfrifiannell
  • Set geometreg
  • Cof bach

Ar gyfer yr elfennau ymarferol gan gynnwys profiad gwaith bydd rhaid i fyfyrwyr gyflenwi esgidiau amddiffynnol.

Yn ogystal, mae gwibdaith i amgylchedd technoleg ddigidol ar gyfer myfyrwyr Lefel 3 ac efallai y bydd rhaid gwneud cyfraniad bach tuag at hon.

 

Hoffech chi astudio'r cwrs hwn?

Ymgeisiwch nawr!