Skip to main content

Technegydd Peirianneg Electronig Uwch Lefel 3 - Diploma Estynedig

Amser-llawn
Lefel 3
EAL
Tycoch
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Bwriad y cwrs Lefel 3 hwn yw rhoi mynediad i’r diwydiant electroneg neu astudiaethau ar lefel prifysgol. Mae’n rhan o fframwaith prentisiaeth Cymru a ddefnyddir i hyfforddi prentisiaid ym maes electroneg.

Bydd myfyrwyr yn dysgu am gysyniadau sylfaenol electroneg gan gynnwys Autodesk Fusion, electroneg analog, electroneg ddigidol, roboteg, cyfrifiaduron, rhwydweithio, clyweled, PLC a phrosiectau pwrpasol.  

Trwy brosiectau ac ymarferion, bydd myfyrwyr yn cael profiad ymarferol gan ddefnyddio’r systemau electronig diweddaraf a datrys problemau o safon diwydiant go iawn.

Amcanion y cwrs:

  • Deall egwyddorion systemau electronig a’u cymwysiadau
  • Datblygu sgiliau datrys problemau a sgiliau meddwl beirniadol ar systemau electronig
  • Dylunio a gosod systemau electronig.

Canlyniadau’r cwrs:

  • Bydd myfyrwyr yn gallu egluro cysyniadau sylfaenol systemau electronig a’u cymwysiadau
  • Bydd myfyrwyr yn gallu dylunio systemau electronig  
  • Bydd myfyrwyr yn gallu gosod systemau electronig.

Gwybodaeth allweddol

Pedair gradd D neu uwch ar lefel TGAU, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg. 

Dydd Mawrth, 9am-5pm yn Nhycoch (Ystafell T48, Labordy Electroneg)

Asesu:

  • Arholiadau dewis lluosog
  • Aseiniadau ymarferol
  • Ysgrifennu adroddiadau.

Meini Prawf Graddio:

  • Arholiadau: 40%
  • Aseiniadau: 50%
  • Ysgrifennu adroddiadau: 10%.

Yn y Coleg, gallech symud ymlaen i’r cwrs Lefel 3 a rhaglenni addysg uwch HNC/HND. Yn ogystal, gall dysgwyr symud ymlaen i brentisiaethau yn y sector electroneg. Mae’r sector hwn yn anhygoel o amrywiol gan arwain at gyfleoedd yn y canlynol:

  • Roboteg
  • Electroneg ddiwydiannol
  • Technegydd cyfrifiadurol
  • Technegydd clyweled
  • Electroneg feddygol
  • Technoleg cyfathrebu symudol
  • Technegydd deintyddol (systemau electronig)
  • Nwyddau gwyn
  • Nwyddau brown
  • Systemau electroneg tân a diogelwch.

Gall y cwrs arwain at yrfa lewyrchus yn y diwydiant electroneg.

Mae nifer o fyfyrwyr wedi cynrychioli Cymru a’r DU mewn cystadlaethau sgiliau. Mae’r cystadlaethau hyn yn galluogi myfyrwyr i fod y fersiynau gorau ohonynt eu hunain. Mae’r tîm Electroneg yn falch o’n cyflawniadau gyda dysgwyr yn y maes hwn. Mae dysgwyr yn ennill medalau Aur, Arian ac Efydd yn gyson mewn cystadlaethau o’r fath.

Mae myfyrwyr wedi mynd ymlaen i gynrychioli’r Coleg yn y Gemau Olympaidd Sgiliau Rhyngwladol trwy lwybr WorldSkills International.

Mae myfyrwyr sydd wedi manteisio ar gyfleoedd prentisiaeth wedi cael gyrfaoedd rhagorol yn y sector.