Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch - Chwaraeon Moduro

Amser llawn
Lefel 3
BTEC Subsidiary Diploma / Diploma
Gorseinon
Dwy flynedd
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Bwriedir ein cwrs Peirianneg Chwaraeon Moduro Uwch Lefel 3 i’r rhai sydd â diddordeb brwd mewn chwaraeon moduro a pheirianneg sydd am ddilyn gyrfa ym myd bywiog chwaraeon moduro.

Mae’r rhaglen gymhwysfawr hon, ar y cyd ag Adran Peirianneg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad ymarferol er mwyn ffynnu yn y diwydiant chwaraeon moduro hynod gystadleuol. 

  • Modiwlau  
  • Trawsyriant 
  • Lluniadau peirianneg 
  • Gwyddor cerbydau a mathemateg 
  • Chwistrelliad petrol 
  • Offer trydanol 
  • Llywio 
  • Hongiad 
  • Brecio 
  • Iechyd a diogelwch.

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

  • Gradd C mewn cymwysterau TGAU priodol gan gynnwys Mathemateg, Saesneg Iaith a Gwyddoniaeth 
  • Byddwn yn ystyried dilyniant o gyrsiau modurol lefel ganolradd ochr yn ochr â chymwysterau TGAU neu gymwysterau cyfwerth Sgiliau Hanfodol Cymru. 

Dull Addysgu’r Cwrs

Addysgir gwybodaeth a sgiliau trwy sesiynau yn yr ystafell ddosbarth lle cewch eich annog i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar y dysgwr a hefyd mewn gweithdai modurol a chwaraeon moduro realistig trwy ddefnyddio arddangosiadau ymarferol a thasgau gweithio realistig. 

Asesir dysgwyr trwy ddefnyddio datblygiad aseiniadau yn bennaf, ac ategir hyn yn aml gan weithgareddau ymarferol wedi’u cofnodi a wneir yn y ddau weithdy y manylir arnynt uchod. 

Cyfleoedd Dilyniant

Trwy ddefnyddio’r pwyntiau UCAS cysylltiedig, prif nod y cwrs yw helpu dysgwyr i symud ymlaen i raglenni Addysg Uwch cysylltiedig mewn prifysgolion. Mae enghreifftiau’n cynnwys:   

  • Peirianneg Cerbydau Modur (BEng, DipHE) 
  • Peirianneg Chwaraeon Moduro (BEng, DipHE) 
  • Peirianneg Beiciau Modur (BEng).

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r eitemau canlynol yn hanfodol er mwyn cwblhau’r cwrs:

  • Cyfarpar diogelu personol sy’n cydymffurfio â safonau diogelwch
  • Prydeinig Nwyddau swyddfa amrywiol
  • Trwydded pecyn dysgu electronig Electude.
 

Hoffech chi astudio'r cwrs hwn?

Ymgeisiwch nawr!